12 Mehefin 2026
Fe wnaeth mwy na 100 o gleifion o bob cwr o Dde Gwynedd elwa o fynediad cyflymach at wasanaethau gofal iechyd arbenigol yn ein Diwrnod Asesiadau Cymunedol yn Nolgellau.
Yn y digwyddiad, daeth ffisiotherapyddion, podiatryddion ac ystod o wasanaethau iechyd a chymunedol ynghyd o dan yr un to, gan gynnig asesiadau i gleifion, a chynlluniau triniaeth yn nes at eu cartrefi, a lleihau'r anghenion am apwyntiadau lluosog neu deithio i safleoedd y prif ysbytai.
Gwelwyd mwy na 120 o gleifion yn ystod y dydd, a threfnwyd yn uniongyrchol i oddeutu 20 o gleifion gael apwyntiadau mewn meddygfeydd yn y Bala, Dolgellau a Thywyn, gan eu helpu i gael asesiadau arbenigol yn gynt o lawer nag y byddent fel arall.
Roedd gan y cleifion a ddaeth i’r diwrnod asesiadau ystod eang o gyflyrau cyhyrysgerbydol sy’n effeithio ar bob grŵp oedran, gan gynnwys poen yn y cymalau, cyflyrau sy’n gysylltiedig ag oedran ac anafiadau sy’n gysylltiedig ag ymarfer corff.
Fe wnaeth y digwyddiad hefyd amlygu manteision gweithio integredig ar draws timau gofal iechyd. Aseswyd pymtheg o gleifion gan y Gwasanaeth Asesiadau a Thriniaethau Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATS), gan osgoi rhagor o aros ac apwyntiadau mewn ysbytai. Cafodd saith ar bymtheg o gleifion eu cyfeirio at y tîm Codymau, a chafodd 12 asesiadau di-oed ar y diwrnod, gan atal yr angen am apwyntiadau ychwanegol. Trosglwyddwyd chwe chlaf yn uniongyrchol rhwng gwasanaethau podiatreg a ffisiotherapi, gan osgoi apwyntiadau ar wahân, a chafodd pum claf eu gweld gan Dîm Iechyd y Pelfis. Fe wnaeth y digwyddiad helpu i osgoi cyfanswm o 38 apwyntiad gofal eilaidd.
Gallai cleifion hefyd gael cyngor a chymorth gan sefydliadau'r trydydd sector a gwasanaethau eraill y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys gwasanaethau deintyddol a'r tîm atal codymau, gan sicrhau y gallent gael y cymorth cyfannol sydd ei angen arnynt i ddiwallu eu hanghenion.
Dywedodd Gareth Bowen, Podiatrydd Arbenigol Cyflyrau Cyhyrysgerbydol: "Cynigodd y digwyddiad hwn fudd sylweddol i gleifion ar adeg pan mae amseroedd aros cyfartalog i gael gwasanaethau ffisiotherapi a phodiatreg yn oddeutu 14 wythnos.
"Mae hefyd yn enghraifft wych o sut y gallwn wella mynediad at wasanaethau gofal iechyd mewn cymunedau gwledig trwy ddod â gwasanaethau yn uniongyrchol at bobl leol. Trwy sicrhau bod gwahanol dimau clinigol yn gweithio gyda'i gilydd mewn un lle, gallwn gynnig mwy o ofal ar y cyd a lleihau'r angen am apwyntiadau niferus.
"Mae'r digwyddiadau hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd datblygu gwerthfawr i aelodau iau o'n timau, gan ein helpu i gynorthwyo a datblygu clinigwyr y genhedlaeth nesaf gan barhau i gynnig gofal o ansawdd uchel yn nes at gartrefi pobl."
Mae digwyddiad Dolgellau yn un o gyfres o Ddiwrnodau Asesiadau Cymunedol sydd wedi’u cynnal ledled Gwynedd ac Ynys Môn, a bwriedir cynnal un arall yng Nghaernarfon yn ddiweddarach yn ystod yr haf hwn.
Dywedodd Cathy Wynne, Pennaeth Ffisiotherapi Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae'r Diwrnodau Asesiadau Cymunedol wedi bod yn hynod o lwyddiannus ac rydym yn dal yn cael adborth calonogol gan gleifion a staff. Maent yn ein helpu i leihau rhestrau aros, gwella mynediad at wasanaethau a sicrhau y caiff cleifion y gofal priodol ar adegau priodol.
"I gleifion, mae'n golygu mynediad cyflymach at gyngor a thriniaethau arbenigol yn nes at eu cartrefi. I'n timau, mae'n cynnig cyfle i weithio ar y cyd ar draws gwasanaethau, ac mae hynny’n werth chweil ac yn fuddiol o ran y gofal a gynigir i gleifion. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar sylfeini’r llwyddiant hyn trwy gynnal digwyddiadau yn y dyfodol ledled Gwynedd ac Ynys Môn.”
Ar draws Gogledd Cymru, mae timau wedi bod yn datblygu ac yn profi modelau asesu gwahanol yn y gymuned er mwyn gwella mynediad at ofal ac i leihau derbyniadau diangen i’r ysbyty.
Y gobaith o’r datblygiadau hyn yw y gellir addasu a chyflwyno’r dull Diwrnod Asesu yn y Gymuned yn ehangach ar draws y rhanbarth.