25.06.2026
Mae timau Bwrdd Iechyd o Oncoleg, Ffiseg Feddygol a Radiograffeg yn rhan o grŵp sydd wedi ennill gwobr fawreddog.
Bu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn rhan o grŵp a enillodd y wobr Gweithio gyda’n Gilydd yng Ngwobrau Canser Moondance. Roedden nhw’n cynnwys:
Cawsant gymorth hefyd gan Advancing Radiotherapy Cymru (ARC) ac Academi Oncoleg Felindre.
Mae’r gwobrau, a gynhaliwyd ar 11 Mehefin yng Nghaerdydd, yn digwydd bob dwy flynedd ac maent yn dathlu’r rhai sy’n cyflwyno, arwain ac arloesi o fewn gwasanaethau canser ein cenedl. Roedd eu cyflwyniad o’r enw, ‘Building a Multi-Professional Workforce’, yn canolbwyntio ar gydweithio ehangach rhwng byrddau iechyd i helpu cleifion i dderbyn triniaeth cyn gynted â phosibl.
Darllenwch fwy: Buddsoddiad gwerth sawl miliwn o bunnoedd mewn staffio yn yr Adran Achosion Brys - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Gwnaethant ddatblygu ymagwedd amlbroffesiynol i dargedu diffiniad mewn radiotherapi – y cyfnod mewn cynllunio triniaeth canser lle mae’r rhan o’r corff i’w thrin yn cael ei mapio’n gywir.
Mae Dr Christopher Scrase yn Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Arweinydd Clinigol ar y cyd ar gyfer Oncoleg a Chlinigwr Arweiniol ar gyfer Radiotherapi. Roedd wrth ei fodd gyda’r gydnabyddiaeth.
Dywedodd: “Ystyrir Radiotherapi yn arbenigedd crefft lle mae dehongli delweddau a chyfuchlinio wedi bod yn rôl i feddyg yn draddodiadol. Bydd y prosiect hwn yn darparu’r fframwaith i ddatblygu arbenigwyr anfeddygol i ymgymryd â rhywfaint o’r gwaith hwn, gan roi mwy o sgiliau uwch i gydweithwyr gan eu galluogi i weithio ochr yn ochr â meddygon yn y rôl hollbwysig hon o ran cynllunio’r llwybr radiotherapi.
“Rwy’n arbennig o falch wrth i ail flwyddyn ein strategaeth radiotherapi ddod yn nes ac o’n gweledigaeth o weithio ar y cyd gyda’n partneriaid yn Ne Cymru ochr yn ochr â’n cysylltiadau presennol yn Lloegr.”
Darllenwch fwy: Dyfarnu OBE am Wasanaethau i Ofal Iechyd Menywod i'r Meddyg Ymgynghorol Dr Geeta Kumar - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae’r dull cydgysylltiedig hwn yn cael ei gyflwyno trwy raglen fesul cam. Gwnaeth y cam cychwynnol, a ariennir gan ARC, archwilio anghenion gweithlu a hyfforddiant, gan arwain at adolygiad cenedlaethol o’r opsiynau gorau. Bydd y cam nesaf yn datblygu rhaglen hyfforddi, yn cynnwys pecyn datblygu sgiliau, llyfrgell adnoddau ac arweiniad, gyda chynllun peilot wedi’i gynllunio i gyflwyno’r rhaglen yn genedlaethol.
Un o brif gryfderau’r rhaglen yw’r cyfuniad o arbenigedd ar draws sefydliadau.
Trwy fabwysiadu dull cyfunol, mae’r rhaglen yn creu gweithlu radiotherapi mwy hyblyg ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn cynorthwyo mynediad cyflymach at driniaeth, lleihau pwysau ar draws y llwybr a gwella’r profiad cyffredinol i gleifion sy’n derbyn triniaeth canser.
Mae’r wobr yn cydnabod uchelgais y gwaith hwn a chryfder gweithio mewn partneriaeth. Mae hefyd yn dangos sut gall sefydliadau ledled Cymru weithio gyda’i gilydd i wneud gwelliannau parhaus i ofal cleifion.
Mae hefyd yn dangos sut gall sefydliadau GIG Cymru weithio gyda’i gilydd i gyflwyno buddion parhaus ar gyfer gofal cleifion.
Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr