Neidio i'r prif gynnwy

Dean wrth law i helpu cadw'r ysbyty yn rhedeg

16.06.2026

Mae llawer o dimau gwahanol sy’n cynnal ein gwasanaethau’n gyson, felly mae’n briodol cydnabod rhai o’r bobl hynny sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni ar Ddiwrnod Ystadau a Chyfleusterau eleni.

Un o’r rheiny sy’n helpu i gadw ein safleoedd yn symud yw Dean Nankivell, porthor ysbyty banc yn ysbytai Glan Clwyd, Rhuthun a Dinbych. Nid yw gwasanaethu’r cyhoedd yn ddim byd newydd iddo.

Gan ddechrau fel ymladdwr tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Manceinion, cododd drwy’r rhengoedd i ddod yn bennaeth hyfforddiant a datblygiad gweithredol fel rheolwr grŵp. Ond nid yw ei sgiliau yn diweddu yno.

Gweithiodd hefyd ledled y byd fel arbenigwr mewn ymateb i ddaeargrynfeydd – ac ar draws y DU  mewn chwilio ac achub. Er mai o fewn y gwasanaeth tân y bu ei rôl sylfaenol, aeth ei arbenigedd a’i brofiad ag ef o gwmpas y byd.

Felly pam dod yn borthor o fewn ein Bwrdd Iechyd?

Dywedodd Dean: “Wedi i mi ymddeol o’r gwasanaeth tân, doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w wneud ond roeddwn i’n caru gweithio o fewn y gymuned, gweithiais ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion am gyfnod, roeddwn yn gyfrifol am bopeth yn ymwneud â diogelwch tân, asbestos, iechyd a diogelwch ac yna symudais i Ogledd Cymru.

“Doeddwn i ddim eisiau gweithio yn llawn amser ond roeddwn eisiau gwneud rhywbeth fyddai o fudd i’r gymuned mewn rhyw ffordd, roeddwn eisiau helpu pobl – ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael y rôl.”

Pam ydych chi’n hoffi bod yn borthor?

“Oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar y gymuned, mae’r amrywiaeth yn anhygoel,” datgelodd Dean. “Mae llwythi o wahanol bethau’n mynd ymlaen, pob un diwrnod yn wahanol. Rwyf wrth fy modd gyda’r rhyngweithio â’r cleifion. Mae hynny’n dda iawn, iawn.

“Dim ond siarad â gwahanol bobl, eu gwahanol broblemau, eu sicrhau nhw, chwerthin gyda nhw – tipyn o dynnu coes. Ond dim ond rhan o’r swydd yw hyn.

“Mae llawer o agweddau eraill. Rydym yn symud silindrau ocsigen, rydym yn dosbarthu llieiniau ffres, rydym yn mynd â’r trolïau bwyd allan. Rydym yn gwneud y tasgau mwy difrifol, megis symud yr ymadawedig i’r marwdy, rydym yn gwneud casgliadau gwaed, mynd â phobl i’w sganiau, ac ati.

“Rydym yn mynd â’r post, danfon cyffuriau a chyflenwadau eraill, clirio’r sbwriel. Os oes angen symud rhywbeth mewn ysbyty, bydd porthor ar ei ffordd. Mae yna lawer o wahanol agweddau ac, fel y dywedais, nid oes yr un dau ddiwrnod fyth yr un fath.”

Ydych chi’n credu bod porthorion a staff anghlinigol eraill yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu?

Dywedodd Dean: “Mae’n bwynt da. Rwy’n meddwl am lawer o’r amser efallai y bydd pobl yn cerdded heibio a gweld porthor yn cael paned. Yr hyn nad ydyn nhw’n sylweddoli yw efallai fod yr unigolyn hwnnw newydd fod yn gweithio am bedair awr yn ddi-dor, heb ddiod.

"Yn union wedi i dasg ddod drwodd, rydym yn syth allan oherwydd dydyn ni ddim am i’r tasgau bentyrru. Weithiau bydd pobl yn dweud ‘lle rydych chi wedi bod?’ Byddai mwy na thebyg yn cymryd peth amser i ni restru pob man rydym wedi bod ynddo.

“Rwy’n credu, yn gyffredinol, bod staff clinigol wir yn gwerthfawrogi’r hyn mae porthorion yn ei wneud ond efallai nad yw’n cael digon o gyhoeddusrwydd pa mor hanfodol maen nhw wrth redeg yr ysbyty. Rwy’n ei gymharu â’r glanhawr yn NASA, pan ofynnwyd iddo gan yr Arlywydd: ‘Beth ydych chi’n ei wneud yma?’

“Dywedodd: ‘Rwy’n helpu i roi dyn ar y lleuad.’ Rwy’n meddwl ei fod yr un fath yn ein hysbytai. Mae pawb yn gwneud eu rhan, ond efallai nad oes neb wir yn gweld y gwaith hwn. Rydym yn helpu cleifion i gael eu triniaeth er mwyn iddyn nhw adael a chael mynd adref yn ddiweddarach.”

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr