Neidio i'r prif gynnwy

Dr Caroline Jones yn cyrraedd rownd derfynol Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae Dr Caroline Jones, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Seicoleg Plant ac Ymyriadau Seicolegol, wedi cael ei chydnabod fel un o’r  Dysgwyr Cymraeg gorau yng Nghymru ar ôl iddi gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol - un o'r anrhydeddau mwyaf i ddysgwyr y Gymraeg.

Mae’r gystadleuaeth wedi'i threfnu ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae'n dathlu dysgwyr sydd, drwy eu hymrwymiad, eu brwdfrydedd a'u defnydd o'r iaith Gymraeg, wedi cael effaith arwyddocaol ar eu cymunedau, eu gweithleoedd a'u bywyd bob dydd.

Mae'r Gymraeg yn rhan hanfodol o hunaniaeth, diwylliant a threftadaeth Cymru. Mae’n cysylltu cymunedau a chenedlaethau drwy’n gwlad ar ei hyd. Mae gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn cydnabod unigolion sydd nid yn unig wedi cofleidio'r iaith ond sydd hefyd yn ei hyrwyddo ac yn ysbrydoli eraill i’w defnyddio'n hyderus. Mae cyrraedd y rownd derfynol yn gamp fawr, ac mae’n cydnabod blynyddoedd o ymroddiad ac angerdd gwirioneddol dros yr iaith, a'r rôl bwysig y mae dysgwyr yn ei chwarae wrth helpu'r iaith i ffynnu.

I Caroline, mae dysgu Cymraeg wedi bod yn llawer mwy na dim ond dysgu ffordd newydd o gyfathrebu. Daeth Caroline, sydd o Lundain yn wreiddiol, yn ymwybodol o'r Gymraeg am y tro cyntaf ar ôl cwrdd â'i gŵr dros 20 mlynedd yn ôl. Ar ôl symud i Ogledd Cymru yn 2004, dechreuodd ddysgu Cymraeg tra oedd yn astudio ar gyfer ei gradd MSc ac yna ar gyfer ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, gan ymroi’n llwyr i’r gymuned a'r diwylliant o'i chwmpas. Dros y blynyddoedd, mae'r Gymraeg wedi dod yn rhan annatod o'i bywyd proffesiynol a phersonol, gan agor y drysau i gyfleoedd newydd, cyfeillion, a chysylltiadau dyfnach â'r lle y mae hi bellach yn ei alw'n gartref.

Heddiw, mae'r Gymraeg yn chwarae rhan bwysig ym mywyd proffesiynol a phersonol Caroline. Fel Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol, a Phennaeth ei Hadran, mae hi'n falch o allu cynnig gwasanaethau dwyieithog i gleifion, yn enwedig plant a phobl ifanc. Mae hi'n deall, wrth i bobl drafod eu meddyliau, eu teimladau a'u profiadau, bod y gallu i gyfathrebu yn eu dewis iaith yn gallu helpu rhywun i deimlo'n fwy cyfforddus, ac i deimlo eu bod yn cael eu deall a’u cefnogi. I Caroline, nid dewis iaith yn unig yw rhoi gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, ond cyfle hefyd i gynnig gofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn diwallu anghenion y cymunedau y mae hi'n eu gwasanaethu.

Mae cydweithwyr yn disgrifio Caroline fel eiriolwraig brwd dros y Gymraeg, sydd bob amser yn annog eraill i gael yr hyder i ddefnyddio eu Cymraeg, beth bynnag fo'u lefel. Mae ei brwdfrydedd yn heintus, ac mae hi wedi ysbrydoli nifer o rai eraill o'i chwmpas i ddechrau neu i barhau â'u teithiau dysgu eu hunain.

Tu hwnt i'r gwaith, mae'r Gymraeg yn rhan annatod o’i bywyd teuluol. Mae ei phlant yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg, ac felly mae Caroline yn parhau i ddatblygu ei sgiliau iaith ac yn mwynhau'r cyfleoedd y mae'r iaith wedi'u rhoi iddi i gysylltu'n ddyfnach â'i chymuned a'i diwylliant. Ar ôl cael ei chydnabod eisoes fel Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn Canolradd/Uwch y Bwrdd Iechyd, mae hi bellach yn llysgennad dros yr iaith a'r manteision y mae'n eu cynnig.

Wrth drafod y gydnabyddiaeth hon, dywedodd Caroline: “Mae dysgu Cymraeg wedi cyfoethogi fy mywyd mewn nifer fawr iawn o ffyrdd. Mae wedi fy helpu i deimlo'n rhan o'r gymuned, wedi agor drysau'n broffesiynol ac yn bersonol, ac wedi fy ngalluogi i ymgysylltu â phobl mewn ffordd wahanol”.

“Mae cyrraedd rownd derfynol mewn cystadleuaeth genedlaethol mor uchel ei bri yn anrhydedd enfawr, a gobeithio y bydd yn annog eraill i gymryd y cam cyntaf (neu'r cam nesaf) ar eu taith dysgu Cymraeg.”

Yn ôl Beth Jones, Rheolwr Hyfforddiant y Gymraeg: “Mae llwyddiant Caroline yn gwbl haeddiannol ac yn gydnabyddiaeth o’r ymrwymiad, y brwdfrydedd a’r penderfyniad mae wedi dangos drwy gydol ei thaith gyda’r Gymraeg. Mae cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth hon yn gamp ragorol ac yn gydnabyddiaeth o’r effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael o fewn y Bwrdd Iechyd a thu hwnt”.

“Mae’r Gymraeg yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac i sicrhau y gall cleifion gael mynediad at wasanaethau yn eu dewis iaith. Mae Caroline yn gosod esiampl wych i eraill, gan ddangos sut y gall dysgu a defnyddio’r Gymraeg gyfoethogi bywyd proffesiynol a phersonol a’n helpu i gryfhau ein cysylltiadau â’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn hynod falch ohoni ac yn dymuno pob llwyddiant iddi.”

Mae llwyddiant Caroline yn destun balchder i’r Bwrdd Iechyd ac yn dangos ymrwymiad cynyddol ein staff i ddysgu’r Gymraeg. Hi yw'r pumed aelod o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ddilyn Yankier Perez yn 2018, Manuela Niemetscheck ac Alison Roberts (enillydd) yn 2023, a Leanne Parry yn 2025.

Mae pawb yma yn BIPBC yn llongyfarch Caroline ar y llwyddiant arbennig hwn ac yn dymuno’n dda iddi.