Neidio i'r prif gynnwy

Cael y gofal cywir, y tro cyntaf

Ar gyfer symptomau difrifol sy’n bygwth bywyd megis poen yn y frest, llewygu, problemau anadlu, poen yn yr abdomen, problemau sy’n gysylltiedig ag alcohol neu orddos cyffuriau, ffoniwch 999 neu ewch i’ch Adran Achosion Brys agosaf.

 

Pan fydd angen cymorth meddygol arnoch, mae’n bwysig eich bod yn dewis y gwasanaeth cywir.

Mae dewis y gwasanaeth cywir ar gyfer mân anafiadau ac afiechydon yn golygu y byddwch yn cael y gofal sydd ei angen arnoch cyn gynted â phosibl, gan helpu i gadw gwasanaethau brys ar gael i'r rhai sydd eu hangen ar gyfer yr afiechydon a'r anafiadau mwyaf difrifol.

Mae nifer o wasanaethau GIG lleol ar draws Gogledd Cymru, o fferyllfeydd i bractisiau meddygon teulu, Unedau Mân Anafiadau, GIG 111 Cymru a mwy.

Bwriad y wybodaeth ar y dudalen we hon yw eich helpu i ddod o hyd i’r gwasanaeth cywir a gwneud y dewis cywir. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth ar ba mor ddefnyddiol yw'r wybodaeth hon trwy ein ffurflen adborth ar-lein.