Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Atgoffa am Apwyntiadau Ysbyty

Bob blwyddyn mae nifer sylweddol o gleifion yn dewis peidio â mynychu eu hapwyntiadau ysbyty. Yn 2019/20, ni ddaeth dros 48,852 (7.13%) o bobl i'w hapwyntiadau ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae hyn yn gohirio triniaeth ac yn cynyddu amseroedd aros i bob claf.

Negeseuon atgoffa dros neges destun

Cyflwynwyd system atgoffa dros neges destun sydd newydd ei gwella i helpu cleifion i gofio manylion eu hapwyntiadau a lleihau nifer yr apwyntiadau a fethwyd.

Bydd y negeseuon  atgoffa dros neges destun yn cynnwys:

  • enw cyntaf y claf
  • manylion yn ymwneud â'r math o apwyntiad, e.e apwyntiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu fideo
  • dyddiad, amser, arbenigedd (e.e. resbiradol) a lleoliad ei apwyntiad

Mae negeseuon atgoffa dros neges destun yn ffordd wych i gleifion gysylltu os na allant ddod mwyach, neu i ail drefnu eu hapwyntiad drwy anfon ymateb. Mae buddion y negeseuon manylach hyn yn golygu y bydd gan gleifion eglurder ynghylch lleoliad eu hapwyntiad a'r arbenigedd. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi'n mynychu'r ysbyty ar gyfer mwy nag un apwyntiad neu os yw'r rhif ffôn cyswllt yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mwy nag un aelod o’r teulu.

Neges Llais Rhyngweithiol

Yn ogystal, rydym hefyd wedi diweddaru ein Negeseuon Llais Rhyngweithiol - mae hon yn neges gyda llais wedi'i recordio a anfonir at ffôn tŷ’r claf i'w hatgoffa o'i apwyntiad os nad oes rhif symudol wedi’i gofnodi ar system trefnu apwyntiadau’r ysbyty. Mae'r negeseuon hyn yn rhoi cyfarwyddiadau i gleifion, gan eu galluogi i gadarnhau presenoldeb, canslo neu ail-drefnu eu hapwyntiad.

Bydd pob galwad yn dod o rif lleol fel a ganlyn:

Galwadau gan Asiant

Yn olaf, rydym hefyd yn darparu gwasanaeth atgoffa lle bydd rhai cleifion yn cael galwad ar ran y Bwrdd Iechyd, gan berson a fydd yn atgoffa'r claf am fanylion ei apwyntiad. NI ofynnir i gleifion BYTH am unrhyw fanylion talu yn ystod y galwadau hyn.

Amserlen

Mae negeseuon atgoffa am apwyntiadau ysbyty - negeseuon testun, negeseuon llais rhyngweithiol a galwadau gan asiant - yn cael eu hanfon at gleifion 7 niwrnod a/neu 48 awr cyn eu hapwyntiad. Mae hyn yn caniatáu digon o amser i'r Bwrdd Iechyd ail ddyrannu apwyntiadau cleifion allanol, gan arbed dros £7.6m i'r GIG o bosibl

Cydsyniad i optio i mewn ar gyfer y gwasanaeth

I gydymffurfio â rheoliadau gwarchod data, bydd angen i bob claf gydsynio i’n galluogi ni i anfon negeseuon wedi’u personoli trwy gwblhau ein ffurflen ar-lein.

Gall cleifion sy’n optio i mewn i’r gwasanaeth estynedig nodi eu dewis iaith, i dderbyn y negeseuon atgoffa yn Gymraeg neu’n Saesneg.  Bydd cleifion yn parhau i dderbyn ein neges ddwyieithog syml oni bai eu bod wedi optio allan o’r gwasanaeth yn gyfan gwbl.  Dylai cleifion nodi os ydyn nhw’n penderfynu ‘optio allan’ mae’n bosib na fyddant yn derbyn unrhyw fath o nodyn atgoffa.   Fodd bynnag, gall cleifion newid eu meddwl unrhyw bryd yn y dyfodol.

optio i mewn ar gyfer y gwasanaeth atgoffa drwy neges destun ar ei newydd wedd, cwblhewch ein ffurflen ar-lein. Cwblhewch y ffurflen gydsyniad os yw’ch manylion wedi newid a bod angen i chi eu diweddaru.

Manylion pellach

Cyfanswm cost apwyntiadau a fethwyd yn 2021/22 - £7.7m

Yn 2021/22 roedd cost apwyntiadau a fethwyd (DNA) gyfwerth â:

  • 154 gwely ysbyty
  • 173 o nyrsys
  • 744 llawdriniaeth ar y glun
  • 735 llawdriniaeth ar y ben-glin
  • 4,277 llawdriniaeth cataract