Neidio i'r prif gynnwy

Achubwr mynydd yn diolch i'r timau sydd wedi'i helpu i fedru dychwelyd i'r mynyddoedd unwaith eto

30 Mehefin 2026

Mae achubwr mynydd gwirfoddol a oedd yn ofni y gallai anaf difrifol i'w goes ddod â'i allu i ymateb i alwadau am gymorth ar y mynyddoedd i ben, wedi canmol y timau arbenigol fu’n gyfrifol am y driniaeth i’w wella, ac sydd wedi’i alluogi i fedru gwirfoddoli unwaith eto.

Anafodd Phil Britton, aelod o Dîm Achub Mynydd Aberdyfi, ei goes dde ym mis Gorffennaf 2025 ar ôl cymryd cam yn ôl yn lletchwith yn ei ardd.

“Fe deimlais boen dwys yn fy nghlun ac yna disgynais yn ôl.” meddai. “Roeddwn i'n meddwl i ddechrau fy mod wedi anafu cyhyr, ac roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth ddim yn iawn.”

Yn dilyn asesiad cychwynnol, cyfeiriwyd Phil at y tîm Trawma ac Orthopedig yn Ysbyty Gwynedd, lle roedd clinigwyr yn amau ​​bod ganddo anaf anghyffredin o'r enw anaf dadlamineiddio’r cyhyr pedwarpen.

Dywedodd Mr Khong Wee Lee, Meddyg Arbenigol mewn Trawma ac Orthopedig yn Ysbyty Gwynedd: “Mae anaf dadlamineiddio’r cyhyr pedwarpen yn digwydd pan fydd haenau dyfnach llinynnau’r cyhyr yn rhwygo tra bod yr haen allanol yn parhau'n gyfan. Gan nad yw'r llinynnau wedi'u rhwygo'n llwyr, gall yr anaf fod yn anodd ei ganfod, a gall gyfyngu’n sylweddol ar y defnydd, yn enwedig mewn unigolion actif.”

Ar ôl ymchwiliadau pellach, gan gynnwys sganiau uwchsain ac MRI, cafwyd cyfarfod rhwng Phil â'r tîm orthopedig i drafod ei opsiynau ar gyfer triniaeth.

“Ystyriwyd nid yn unig natur anaf Phil, ond hefyd ei ffitrwydd cyffredinol a'i rôl fel achubwr mynydd actif,” ychwanegodd Mr Lee.

Ar 9 Hydref 2025, cafodd Phil lawdriniaeth adluniol yn Ysbyty Gwynedd. Atgyweiriodd y Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol Mr Ashok Goel a'i gofrestrydd, Mr Lee, yr haenau dyfnach oedd wedi'u rhwygo o linynnau’r cyhyr pedwarpen a'u gwnïo i'r pen-glin gan ddefnyddio pwythau arbenigol. Yn dilyn y llawdriniaeth, dechreuodd Phil ar raglen adsefydlu strwythuredig gyda'r tîm Ffisiotherapi.

“Roedd angen ymrwymiad ac amynedd mawr er mwyn gwella,” meddai Phil, “ond roedd y gefnogaeth a dderbyniais yn rhagorol.

“Roedd y ffisiotherapyddion yn wych a helpon nhw fi i adennill y cryfder a’r hyder yn fy nghoes. Dychwelyd i ddyletswyddau achub mynydd oedd y nod i mi o’r cychwyn.”

O fewn y misoedd diwethaf, mae Phil wedi dychwelyd i’w ddyletswyddau gyda Thîm Achub Mynydd Aberdyfi ac mae hefyd wedi dychwelyd i'r ffordd o fyw actif y mae'n ei fwynhau.

Dywedodd Mr Goel: “Mae anaf dadlamineiddio llinynnau’r cyhyr pedwarpen yn anaf anghyffredin ac nid yw'n hawdd ei ganfod. Fodd bynnag, gall gyfyngu’n sylweddol ar ddefnydd, yn enwedig mewn unigolion actif iawn fel Phil.

“Rydym wrth ein bodd gyda'i adferiad a’i weld yn dychwelyd i weithgareddau achub mynydd.”

Mae achos Phil hefyd wedi helpu clinigwyr i gael gwell dealltwriaeth o'r anaf anghyffredin hwn.

“Yn hanesyddol, cafodd llawer o gleifion ag anafiadau tebyg eu trin heb lawdriniaeth i ddechrau,” yn ôl Mr Goel. “Er eu bod yn aml yn gallu cerdded a gwneud eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, mae nifer fawr o gleifion yn colli hyder yng ngallu eu coes i fedru gwneud lefelau uwch o weithgaredd unwaith eto, ac yn y pen draw mae angen llawdriniaeth ar rai.

“Llwyddodd Phil i osgoi’r cyfnod hir hwnnw o ansicrwydd oherwydd roeddem ni wedi deall beth oedd yr anaf yn syth ac felly wedi gallu cynnig triniaeth lawfeddygol yn gynt. Mae’r canlyniad yn dangos pwysigrwydd gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r anafiadau hyn ymhlith clinigwyr i sicrhau’r adferiad a’r defnydd hirdymor gorau i gleifion.

“Rydym wedi trin nifer o achosion tebyg yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae hyn wedi cynyddu ein dealltwriaeth o anafiadau rhannol i’r cyhyr pedwarpen yn fawr iawn. Rydym nawr yn gweithio ar gyhoeddi papur am ein profiad i helpu i wella ymwybyddiaeth a thrin anafiadau fel hyn yn y dyfodol.”

I Phil, mae’r canlyniad yn dweud y cwbl.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gofal rwyf wedi’i dderbyn. Roedd medru dychwelyd i achub mynydd yn hynod bwysig i mi ac rwy’n falch fy mod yn medru gwneud yr hyn rwy’n ei garu unwwaith eto.