12 Mehefin 2026
Mwynhaodd cleifion a staff Uned Dialysis Ysbyty Gwynedd ymweliad arbennig yn ddiweddar pan ddaeth Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, Paul Evans, â thlws Cwpan Cymru y clwb i’r uned.
Fe wnaeth y clwb greu hanes ym mis Ebrill 2026 trwy ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf, gan sicrhau un o’r gorchestion mwyaf cofiadwy yn hanes y clwb.
Roedd Paul, a oedd yn glaf dialysis yn Ysbyty Gwynedd, yn dymuno rhannu llwyddiant y clwb â'r staff sydd wedi’i gynorthwyo drwy gydol taith ei driniaeth.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd cleifion a staff gyfle i weld y tlws yn agos, tynnu lluniau a dathlu'r llwyddiant. Un o'r cleifion hynny oedd Ceri Williams, claf sy’n cael haemodialysis yn ei chartref â chymorth gan ei mam, a hefyd Joyce Holden-Carer, gofalwraig sy'n un o gefnogwyr selog Clwb Pêl-droed Caernarfon ac yn eu dilyn ers blynyddoedd lawer. Mae Ceri hefyd yn gobeithio mynd i weld gêm yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Paul: "Roedd pawb sy’n gysylltiedig â Chlwb Pêl-droed Caernarfon yn ymfalchïo’n aruthrol yn llwyddiant y clwb yng Nghwpan Cymru, ac roeddwn i’n awyddus i ddod â’r tlws i’r Uned Dialysis i rannu’r llwyddiant hwnnw â’r bobl sydd wedi fy nghynorthwyo i dros y blynyddoedd.
"Mae’r staff yno yn gwneud gwaith gwych ac maent bob amser wedi gofalu amdanaf i yn garedig, yn broffesiynol ac yn dosturiol. Rwy’n hynod o ddiolchgar iddynt am bopeth, i mi ac i’r holl gleifion y byddant yn gofalu amdanynt bob dydd. Roedd yn bleser gallu dod â’r gwpan i’r uned a gweld pobl yn gwenu wrth ei gweld."
Dywedodd Sarah Hirst-Williams, Metron Uned Dialysis Ysbyty Gwynedd: "Roedd yn hyfryd cael croesawu Paul yn ôl i'r uned ac rydym yn ddiolchgar iawn iddo am neilltuo amser i ddod â thlws Cwpan Cymru i’r uned fel y gallai staff a chleifion ei weld. Rydym yn hynod o falch o lwyddiant Paul a’r clwb.
"Edrychwn ymlaen at barhau i feithrin ein perthynas â'r clwb yn y dyfodol ac rydym yn gwerthfawrogi eu cymorth i'n cleifion a'n staff."