21/08/2026
Mae Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael ei achredu am y tro cyntaf o dan Achrediad Gwasanaethau Anesthesia Clinigol (ACSA) Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion (RCoA) sy'n dangos ymrwymiad yr ysbyty i ddiogelwch cleifion a rhagoriaeth gofal.
Cynllun a adolygwyd gan gymheiriaid Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion yw Achrediad Gwasanaethau Anesthesia Clinigol sy’n hyrwyddo gwella ansawdd a'r safonau uchaf o wasanaeth anesthetig. Er mwyn derbyn achrediad, disgwylir i adrannau ddangos safonau uchel mewn meysydd megis profiad cleifion, diogelwch cleifion ac arweinyddiaeth glinigol.
Dywedodd y prif adolygydd ar yr ymweliad ACSA, Dr Kate Glennon: “Mae achrediad Ysbyty Maelor Wrecsam yn gwbl haeddiannol. Mae arweinydd ACSA ac aelodau'r adran wedi rhoi eu cyfan oll i sicrhau gofal o safon uchel, er gwaethaf pwysau ariannol a phwysau arall.
"Mae darpariaeth eithriadol yn cynnwys gwasanaeth rhagsefydlu sy’n cyflawni gostyngiad sylweddol mewn cymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth, ynghyd â gwasanaeth asesu cyn llawdriniaeth sy'n cael ei arwain a'i weithredu'n dda iawn.
"Roedd cysylltiadau rhyngadrannol cryf yn amlwg drwy gydol yr ymweliad, yn enwedig gyda fferyllwyr, staff gofal dwys a llu o gynghreiriaid eraill. Roedd yr agosatrwydd a'r cyfathrebu rhwng y tîm anesthetig a'r holl staff wrth i ni gerdded o gwmpas yn dangos hyn yn glir. Mae aelodau'r adran yn griw cydlynol a chefnogol, ac mae lefelau cadw staff yn uchel o ganlyniad.
“Llongyfarchiadau, Maelor Wrecsam!”
Dywedodd yr adolygydd lleyg, Dr Lucy Southee, hefyd: “Hoffwn ddiolch i’r Bwrdd Iechyd am fy ngalluogi i fod yn rhan o’r achrediad hwn. Mae fy rôl fel adolygydd lleyg yn cynnig cipolwg i mi o safbwynt claf, ac roeddwn yn gwerthfawrogi’r ymdrech a wnaed gan y tîm anesthetig i wneud taith y claf mor brydlon a di-straen â phosibl. Roedd gwybodaeth i gleifion ar gael yn rhwydd mewn sawl iaith a fformat.
“Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac am eich llwyddiant gwbl haeddiannol.”
Dywedodd arweinydd ACSA yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Dr Anna Williams: “Mae cyflawni achrediad ACSA yn 2026 yn nodi carreg filltir sylweddol ar gyfer ein hadran anesthetig, gan adlewyrchu bron i ddegawd o ymrwymiad parhaus ers dechrau'r broses yn 2017, pan oedd y nod yn teimlo y tu hwnt i’n cyrraedd!
“Mae’r cyflawniad hwn yn cynrychioli nid yn unig gwaith caled helaeth ond hefyd y newid diwylliannol tuag at wella ansawdd a chyfrifoldeb parhaus. Mae meincnodi yn erbyn adrannau eraill a'r safonau wedi darparu persbectif gwerthfawr, gan ein helpu i fireinio ein prosesau ac ymdrechu am ragoriaeth. Yn y pen draw, mae’r cyflawniad hwn yn dyst i ymroddiad, cydweithrediad a gwydnwch yr adran gyfan sydd wedi cymryd rhan yn y broses, ac mae’n atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu gofal cleifion diogel o ansawdd uchel.”
Fe wnaeth Dr Claire Shannon, Llywydd Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion, longyfarch yr ysbyty.
“Hoffwn longyfarch Ysbyty Maelor Wrecsam yn bersonol ar gyflawni eu hachrediad ACSA cyntaf. Mae’n ysbrydoledig gweld ymrwymiad a dull yr adran gyfan a'r ysbyty ehangach i ddangos safonau mor uchel o ran diogelwch cleifion a rhagoriaeth gofal.”