12/08/2026
Mae cenhedlaeth newydd o bobl ifanc dalentog wedi graddio'n falch ar ôl cyflawni eu hinterniaeth 12 mis ac wedi cael eu tystysgrifau mewn seremonïau ledled Gogledd Cymru gyda'u teuluoedd.
Mae'r interniaeth yn rhan o raglen DFN Project SEARCH/Interniaethau â Chymorth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i helpu oedolion a phobl ifanc sy'n gadael addysg sydd ag anableddau dysgu neu awtistiaeth i sicrhau cyflogaeth.
Graddiodd 22 o interniaid dros yr haf wedi lleoliadau a gynhaliwyd yng Nghyngor Sir y Fflint, Clwyd Alun a BIPBC mewn rolau megis Arlwyo, Gweinyddu, Gwaith Porthorion, Cyfleusterau, Cynorthwyo ar Wardiau, Fferylliaeth, Ailgylchu ac mewn meysydd eraill ledled Gogledd Cymru, gan nodi diwedd rhaglen interniaeth lwyddiannus arall.
Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd BIPBC: "Un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn yw mynd i’n seremonïau graddio i interniaid a chyfarfod â’r bobl ifanc anhygoel sydd wedi cyfranogi yn y rhaglenni. Bydd hi’n wastad yn ysbrydolgar cael clywed am eu profiadau a gweld faint yn union y byddant wedi datblygu yn ystod eu cyfnod gyda ni.
"Bydd ein interniaid yn cyfrannu brwdfrydedd a safbwyntiau newydd, ac maent yn wirioneddol ysbrydolgar. Maent wedi cyfrannu’n gadarnhaol at waith timau ledled y Bwrdd Iechyd, a dylid dathlu eu cyflawniadau.
"Hoffwn longyfarch pob un o’r graddedigion ar gwblhau eu hinterniaeth a diolch iddynt am eu dylanwad cadarnhaol ar ein sefydliad. Rwy'n dymuno bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol ac yn edrych ymlaen at weld beth fydd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd."
Mae'r rhaglen wedi cynnig cyfle i gyfranogwyr ddatblygu sgiliau ymarferol, magu hyder, a dod i wybod am yrfaoedd yn y GIG a'r sector gofal iechyd ehangach.
Roedd y digwyddiadau graddio yn gyfle i gydnabod ymdrechion ac ymroddiad y myfyrwyr a’r datblygiad personol a amlygwyd ganddynt yn ystod eu lleoliadau.
Dywedodd Tracey Amos, Arweinydd Gweithredol DFN Project SEARCH/Interniaethau â Chymorth y Bwrdd Iechyd: "Rydym yn eithriadol o falch o’r holl raddedigion sydd wedi cwblhau ein rhaglen interniaethau eleni. Mae eu brwdfrydedd, eu hymroddiad a’u hawydd i ddysgu wedi sicrhau dylanwad go iawn ar draws ein gwasanaethau.
"Mae’r rhaglen interniaethau yn rhan bwysig o ymdrechion i feithrin doniau’r dyfodol a helpu pobl ifanc i archwilio’r ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael yn y GIG.
“Dymunaf hefyd ddiolch i’n holl bartneriaid a staff y Bwrdd Iechyd sy’n cynorthwyo i gynnal rhaglen DFN Project SEARCH/Interniaethau â Chymorth ledled Gogledd Cymru. Heb eu cymorth hwy, ni fyddai’r rhaglenni yn gymaint o lwyddiant ysgubol.”
Caiff y rhaglenni interniaeth eu cynnal ar y cyd gan awdurdodau a sefydliadau rhanbarthol eraill gan gynnwys Clwyd Alyn, Cyngor Sir y Fflint, elusen anableddau HFT, Coleg Llandrillo Menai ac Agoriad Cyf.
Mae'r rhaglen interniaethau yn rhan o ymrwymiad parhaus y Bwrdd Iechyd i gynorthwyo ag addysg, cyflogadwyedd a gwaith datblygu'r gweithlu ledled y rhanbarth.
Mae Adam Watson yn un o raddedigion y rhaglen, a threuliodd ei interniaeth yn gwneud gwaith derbynnydd yn swyddfeydd y Bwrdd Iechyd yn yr Wyddgrug, ac erbyn hyn, mae wedi cychwyn prentisiaeth i allu parhau â’i rôl yno.
Dywedodd Adam: "Mae wedi bod yn bleser pur cael cydweithio â phawb yn fy lleoliad yn y swyddfeydd ym Mhreswylfa, Yr Wyddgrug. Mae hynny wedi fy helpu i fentro allan o fy nghragen, oherwydd pan gychwynnais weithio yno, roeddwn i braidd yn nerfus ac yn anfodlon cymdeithasu.
"Heb os, mae’r interniaeth wedi trawsnewid fy mywyd yn aruthrol. Mae pawb wedi bod yn hynod o gefnogol a charedig, yn enwedig Kate, fy rheolwr. Mae hi wedi bod yn rhagorol. Rydw i wedi dysgu cymaint, wedi cwrdd â llawer o bobl ac wedi dod i ddeall y gwahanol rolau sydd ar gael yn y GIG yn well."
Bydd y rhaglenni interniaethau yn croesawu carfan newydd ym mis Medi 2026, ac am y tro cyntaf, bydd interniaethau newydd ar gael yn Ysbyty Maelor Wrecsam.