Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Brechu – Chwefror 15 2024

Nid yw'n rhy hwyr i amddiffyn eich hun rhag COVID-19 a'r ffliw

Mae'r ffliw a COVID-19 yn dal i gylchredeg mewn cymunedau ar draws gogledd Cymru. Dros y pedair wythnos diwethaf mae mwy na 200 o gleifion mewnol yn ein hysbytai wedi profi'n bositif am y ffliw. Dyma’r lefel uchaf ers wythnos gyntaf Ionawr 2023.

Y ffordd orau i bobl sy'n agored i niwed amddiffyn eu hunain rhag y salwch difrifol a achosir gan COVID-19 a'r ffliw yw cael brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref a'r brechlyn ffliw blynyddol. Gall y brechlynnau eich atal rhag cael y firysau, lleihau difrifoldeb y symptomau os ydych yn eu dal, a lleihau eich siawns o'u trosglwyddo. ​ Maent hefyd yn helpu i amddiffyn y gymuned ehangach rhag achosion, ac yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau GIG lleol. Os ydych chi wedi cael gwahoddiad i gael brechlyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei dderbyn.

Mae clinigau brechu galw-heibio COVID-19 a'r ffliw ar gyfer oedolion cymwys yn cael eu cynnal yn ein canolfannau brechu cymunedol yr wythnos hon a hyd at ddiwedd mis Mawrth. Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer y brechlynnau a gwiriwch ddyddiadau, amseroedd a lleoliadau ein clinigau. ​

Mae brechlynnau ffliw trwy chwistrell trwyn di-boen ar gael mewn meddygfeydd teulu ar gyfer plant dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst 2022). ​ Gall plant ysgol o'r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 11 gael brechlyn rhag y ffliw trwy chwistrell o hyd mewn clinigau dal i fyny a drefnir gan ein timau imiwneiddio ysgolion. Cadwch olwg am ragor o fanylion a hysbysebir drwy'r ysgol.

 

Rhaglen brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn

Yn dilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Llywodraeth Cymru, mae ein timau wrthi'n cynllunio rhaglen brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn yng Ngogledd Cymru.

O 2 Ebrill, byddwn yn dechrau cynnig brechlyn atgyfnerthu i:

  • oedolion 75 mlwydd oed neu'n hŷn
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn
  • pob oedolyn a phlant chwe mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan (fel y'i diffinnir gan dablau 3 a 4 y Llyfr Gwyrdd).

Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am ein cynlluniau yn fuan.

Bydd brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn yn cael ei gynnig i gleifion tua chwe mis ar ôl eu dos olaf o'r brechlyn. ​ Fel mewn ymgyrchoedd blaenorol, bydd ein timau’n rhoi gwahoddiadau i bawb sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu ac yn gweithio gyda rheolwyr cartrefi gofal i gynnig brechiadau.

 

Brechiad y frech goch

Rydym yn pryderu am yr achosion diweddar o’r frech goch yng Nghaerdydd a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Mae'r frech goch yn heintus iawn, a gall ledaenu'n gyflym iawn ymhlith oedolion a phlant nad ydynt wedi'u brechu. ​ Mae symptomau'r frech goch yn cynnwys twymyn uchel, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid dyfrllyd coch, brech a smotiau yn y geg. ​

Gall y frech goch arwain at dderbyn cleifion i'r ysbyty, cymhlethdodau difrifol a gall rhoi bywyd yn y fantol mewn achosion prin. Mae'n bosibl y bydd angen i bobl sydd heb eu brechu ac sydd wedi dod i gysylltiad â phobl sydd â'r frech goch ynysu am hyd at 21 diwrnod.

Er bod data'n dangos bod gan blant yng Ngogledd Cymru lefel uwch o amddiffyniad rhag y frech goch na llawer o ardaloedd eraill yng Nghymru a'r DU, mae nifer y rhai sydd wedi cael y brechlyn MMR yn is na'r lefel a argymhellir, sef 95%.

Rydym yn galw ar rieni i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu’n llawn yn erbyn y frech goch gyda dau ddos o’r brechlyn MMR sy'n ddiogel ac yn effeithiol.

Os ydych yn meddwl y gallai eich plentyn fod wedi methu brechlyn MMR, gwiriwch y cofnod brechu yn ei lyfr coch. ​ Os oes angen i chi ddal i fyny â brechlyn MMR, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd. ​

Mae ein timau nyrsio ysgol ac imiwneiddio yn adolygu cofnodion ac yn cynnig brechiad MMR dal i fyny i blant oedran ysgol uwchradd sydd ei angen. Gwneir hyn fel rhan o glinigau brechlynnau atgyfnerthu HPV, MenACWY a 3-mewn-1 arferol i bobl ifanc yn eu harddegau. ​ Cadwch lygad am ragor o wybodaeth a ffurflen ganiatâd gan eu hysgol neu eich awdurdod lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn MMR, sut i'w gael, a'r amddiffyniad y mae'n ei gynnig rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela ar gael yma.

 

Brechiad pertwsis (y pas)

Rydym yn ymuno â chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i annog mamau beichiog a rhieni plant newydd-anedig i fanteisio ar y brechiad rhag pertwsis (y pas).

Mae'r pas yn haint bacteriol ar yr ysgyfaint sy'n lledaenu'n hawdd iawn. Gall achosi problemau iechyd difrifol, gyda phlant ifanc iawn yn wynebu'r risg fwyaf. Darllenwch fwy o fanylion am y pas yn GIG 111 Cymru.

Mae merched beichiog yn cael cynnig brechiad pertwsis yn ystod beichiogrwydd i helpu i amddiffyn eu plentyn yn ystod wythnosau cynharaf eu bywyd. Mae babanod yn cael cynnig brechiadau eraill fel rhan o'r amserlen arferol ar wythnos 8, 12 ac 16.

Mae achosion o'r pas wedi codi'n gyflym yn ystod yr wythnosau diwethaf. ​ Os ydych chi'n feichiog neu'n cael babi newydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi neu'ch plentyn yn cael y brechlyn pertwsis a phob brechiad arferol arall. ​ Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch â'ch bydwraig gymunedol neu ymwelydd iechyd.