Mae'r brechlyn MMR yn frechlyn cyfunol sy'n ddiogel ac yn effeithiol.
Mae'n amddiffyn rhag tri chlefyd difrifol:
Gall y clefydau hynod heintus hyn ledaenu'n hawdd rhwng pobl sydd heb eu brechu a gallant arwain at nifer o gymhlethdodau'n cynnwys llid yr ymennydd, colli clyw a phroblemau yn ystod beichiogrwydd. Mae cwrs llawn (dau ddos) o'r brechiad MMR yn hynod effeithiol i atal y clefydau hyn.
Mae sicrhau bod plant yn cael eu himiwneiddio ar amser yn bwysig hyd yn oed yn ystod pandemig COVID-19. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn awyddus i roi sicrwydd i gleifion a gofalwyr bod mesurau llym o ran atal a rheoli heintiau, gan gynnwys ymbellhau cymdeithasol, ar waith yn yr holl leoliadau gofal iechyd. Mae hyn yn helpu i'ch amddiffyn chi, eich plentyn, a'r staff gofal iechyd sy'n rhoi'r imiwneiddiadau, rhag dal COVID-19 a'i ledaenu.
Cynghorir cleifion/gofalwyr i ffonio eu Practis Meddyg Teulu neu eu Hymwelydd Iechyd os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau neu bryderon.