Neidio i'r prif gynnwy

Eich brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 ar gyfer yr Hydref

Mae'r bobl sy'n wynebu'r risg uchaf o salwch difrifol oherwydd COVID-19 yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref o fis Medi 2023 ymlaen

Mae'r wybodaeth hon yn ymwneud â brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19  yr Hydref 2023-24, a fydd yn cael ei gynnig i grwpiau cymwys tan 28 Mawrth 2024. I gael rhagor o wybodaeth am frechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 y Gwanwyn, cliciwch yma.

Gall unrhyw un sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref alw heibio un o'n canolfannau brechu heb apwyntiad er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad rhag y firws y gaeaf hwn. Gall pob oedolyn sy’n gymwys ar gyfer y brechiad ffliw alw heibio i un o’n clinigau i gael eu brechlyn flliw heb drefnu apwyntiad hefyd. Ceir manylion am lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau ar yma.

 

Amddiffyn eich hun

Y gaeaf hwn efallai y byddwn yn gweld COVID-19 a’r ffliw yn lledaenu ar yr un pryd, felly mae’n arbennig o bwysig cael ein hamddiffyn.

Gallwch wirio a ydych yn gymwys ar gyfer brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref a chael mwy o fanylion am sut y byddwch yn ei dderbyn trwy'r ddolennau isod.

 

Pàs COVID y GIG

Mae gwasanaeth Pàs COVID y GIG bellach wedi cau. Gwelwch rhagor o wybodaeth yma.

 

Ymholiadau

Ar gyfer ymholiadau am apwyntiad yr ydych wedi'i dderbyn, ffoniwch 03000 840004

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol eraill am y rhaglen frechu COVID-19, e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk

Mae Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 2pm o ddydd Sadurn a ddydd Sul.

 

Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 – Oriau agor dros y Pasg

Dydd Gwener Mawrth 29, dydd Sadwrn Mawrth 30, dydd Sul Rhagfyr 31 a dydd Llun Ebrill 1 – ar gau
Dydd Mawrth Ebrill 2 ymlaen – ar agor fel arfer


Mwy o wybodaeth am galw'r Ganolfan Gyswllt Brechu rhag COVID-19.