Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ysgol yn cynnig cymorth a chyngor i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd neu ofalwyr i helpu i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial yn ystod eu blynyddoedd oed ysgol a thu hwnt.
Mae'r nyrsys ysgol yn dîm o nyrsys Cofrestredig gyda sgiliau arbenigol a all ddarparu cyngor iechyd cyhoeddus arbenigol i blant rhwng 4 a 18 oed.
Yr ystod oedran a gwmpesir yw 4 hyd at 18. Gall plant a phobl ifanc ddefnyddio'r gwasanaeth p'un a ydynt yn mynychu'r ysgol neu'n cael eu haddysgu fel arall.
Mae Nyrsys Ysgol yn ymwneud ag anghenion iechyd a lles plant unwaith y byddant yn 4 oed ac yn cymryd drosodd y gofal gan yr Ymwelydd Iechyd.
Gellir cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol ar gyfer ystod eang o faterion:
Mae Nyrsys Ysgol yn cynnal y Rhaglen Mesur Plant a phrawf golwg a chlyw ar gyfer plant yn eu blwyddyn gyntaf yn yr ysgol.
Mae imiwneiddiadau mewn ysgolion uwchradd hefyd yn cael eu darparu gan y Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion.
Mewn ysgolion uwchradd gall pobl ifanc ddefnyddio'r gwasanaeth Nyrsio Ysgol i gael cymorth a chyngor yn annibynnol tra byddant yn yr ysgol.
Mae Nyrsys Ysgol yn gweithio'n agos gydag ysgolion, Ymwelwyr Iechyd, Meddygon Teulu, Gweithwyr Cymdeithasol a Gwasanaethau Pediatrig Cymunedol.
Mae Nyrs Ysgol wedi'i neilltuo i bob ysgol uwchradd o fewn BIPBC. Yn gyffredinol, mae'r un nyrs yn gofalu am yr ysgolion cynradd sy'n bwydo i'r ysgol uwchradd honno.
Mae Nyrsys Ysgol wedi'u lleoli mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ysbytai cymunedol, meddygfeydd a Chlinigau Cymunedol. Maent i gyd wedi neilltuo amser yn yr ysgolion uwchradd ar gyfer eu clinigau "Galw Heibio" yn yr ysgol.
Mae Nyrsys Ysgol yn darparu Clinigau Galw Heibio mewn ysgolion uwchradd y gall pobl ifanc gael mynediad annibynnol iddynt tra byddant yn yr ysgol.
Gall rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc gysylltu â Nyrs Ysgol eu hardal.
Os nad yw plant neu bobl ifanc yn mynychu'r ysgol, mae ganddynt hawl o hyd i gael mynediad at y Nyrs Ysgol sy'n gwasanaethu eu hardal.
Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion ar gael yn bennaf o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm (ac eithrio gwyliau banc).
Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ysgol ar gael yn ystod y gwyliau ysgol.
Mae rhai Nyrsys Ysgol yn rhan-amser felly efallai y bydd eich galwadau'n cael eu dychwelyd ar eu diwrnod gwaith nesaf.
Os yw eich galwad yn ymwneud â phlentyn neu berson ifanc sy'n sâl, yna cysylltwch â’ch Meddyg Teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647
Os yw eich galwad yn ymwneud â phlentyn neu berson ifanc sydd mewn perygl o niwed, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.