Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Cymuned

Rydym eisiau gwneud yn siŵr nad oes rhaid i chi fynd i'r ysbyty oni bai bod wir angen i chi fynd, felly mae bydwragedd cymuned yn darparu llawer o wasanaethau yn eu clinigau sydd wedi'u lleoli yn y gymuned. Gofynnwch i'ch bydwraig beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Mae gwasanaethau'n cynnwys:

Clinigau cyn-geni a gwasanaethau galw heibio

Ar gyfer gofal cyn-geni arferol yn ogystal â chyngor os oes gennych unrhyw bryderon yn eich beichiogrwydd. 

Dosbarthiadau Cyn Geni

Rydym eisiau rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i chi i helpu i'ch paratoi ar gyfer esgor, genedigaeth a'r diwrnodau cynnar gyda'ch babi. Byddem yn eich annog i fynychu'r dosbarthiadau fel y gallwch ddarganfod mwy a chyfarfod â chyplau eraill.

Yr amser gorau i fynychu yw o oddeutu 28 wythnos beichiogrwydd, pan rydych yn dechrau meddwl am esgor a genedigaeth ac yn dechrau ei gynllunio.

Rydym yn adolygu sut caiff hyn ei ddarparu yn barhaus, yn seiliedig ar eich adborth a beth sydd i'w weld yn gweithio orau, ond bydd pob sesiwn yn cynnwys y pynciau canlynol:

  • Paratoi ar gyfer esgor a genedigaeth
  • Esgor cynnar yn y cartref
  • Osgo gorau ar gyfer esgor a genedigaeth
  • Esgor a genedigaeth mewn dŵr
  • Eich opsiynau ar gyfer man geni - cartref, uned dan arweiniad bydwraig, uned dan arweiniad meddyg ymgynghorol
  • Rôl eich partner
  • Y pedair awr gyntaf gyda'ch babi
  • Bwydo eich babi

Sut i gofrestru

  • Dros y ffôn - Gallwch ffonio swyddfa eich bydwraig cymuned, bydd y rhif ffôn wedi'i ysgrifennu yn eich nodiadau mamolaeth.
  • Siaradwch â'ch bydwraig - Gofynnwch iddi neilltuo lle i chi yn y dosbarthiadau pan fyddwch yn dod am archwiliad.

Gwasanaethau Galw Heibio ar ôl geni

Mae gwasanaethau galw heibio ar ôl geni ar gael ar amseroedd penodol yn eich cymuned os nad ydych eisiau aros am eich bydwraig neu os oes gennych unrhyw bryderon amdanoch chi neu eich babi.

Clinigau Bydwreigiaeth Cymuned

Wrecsam

Cyfeiriad: Canolfan Iechyd Caia Park, Ffordd Tywysog Charles Road, Wrexham, LL13 8TH
Rhif ffôn: 03000 859615

Cyfeiriad: Ruabon Clinic, High Street, Ruabon, LL14 6NH  
Rhif ffôn: 03000 849808

Cyfeiriad: Clinig Brynteg, Ffordd Darby, Southsea, LL11 6RN
Rhif ffôn: 03000 849833

Sir y Fflint

Cyfeiriad: Canolfan Iechyd Y Cei, Ffordd Fron, Cei Connah, CH5 4PJ
Rhif ffôn: 03000 859300

Cyfeiriad: Canolfan Iechyd Bwcle, Ffordd Alltami, Bwcle, CH7 3PG
Rhif ffôn: 03000 859567

Cyfeiriad: Canolfan Iechyd a Lless Y Fflint, Ffordd Earl, Y Fflint, CH6 5ER
Rhif ffôn: 03000 856714

Sir y Dinbych

Cyfeiriad: Ysbyty Cymunedol Dinbych, Ffordd Rhuthin Road, LL16 3ES
Rhif ffôn: 03000 855728

Cyfeiriad: Clinig Ffordd Las, Ffordd Las, Y Rhyl, LL18 2HH
Rhif ffôn: 03000 856856

Conwy

Cyfeiriad: Colwyn Bay Hospital, Hesketh Rd, Colwyn Bay LL29 8AY
Rhif ffôn: 03000 855701

Cyfeiriad: Roslin, Nant y Gamar Rd, Llandudno LL30 1YE
Rhif ffôn: 03000 851790

Gwynedd

Cyfeiriad: Tŷ Cegin, Maesgeirchen, Bangor, LL57 1LR
Rhif ffôn: 03000 850034

Cyfeiriad: Hafan Iechyd, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH
Rhif ffôn: 01286 684 105

Ynys Môn
Cyfeiriad: Ysbyty Caergybi, Ynys Môn, LL65 2QA
Rhif ffôn: 03000843434

Dwyfor

Cyfeiriad: Ysbyty Alltwen, Porthmadog, LL499AQ
Rhif ffôn: 03000 852492

Meirionydd

Address: Ysbyty Dolgellau, Gwynedd, LL40 1NT
Rhif ffôn:  03000 850020