Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael eich brechlynnau rhag y ffliw a phigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref hwn

Brechlynnau ffliw a phigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref sy’n cynnig yr amddiffyniad gorau rhag y firysau i chi a’r rhai sy'n annwyl i chi'r gaeaf hwn

Mae manylion am y grwpiau sy'n gymwys i gael brechlynnau ffliw a phigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 am ddim isod. Cliciwch ar eich grŵp i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gael eich brechlynnau. 

Sylwer, lle bo'n bosibl, efallai y bydd brechlynnau ffliw a phigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref yn cael eu rhoi ar yr un pryd. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd cleifion yn cael eu galw i apwyntiadau ar wahân ar gyfer eu brechlynnau. 

Derbyniwch y gwahoddiad i gael y ddau frechlyn y gaeaf hwn. 
 

Gall unrhyw un sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref alw heibio un o'n canolfannau brechu er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad rhag y firws y gaeaf hwn.
Bydd sesiynau galw heibio yn cael eu cynnig yn ein clinigau brechu cymunedol o ddydd Iau Rhagfyr 7. Ceir manylion am lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau ar yma.

 

Grwpiau cymwys ar gyfer y brechlyn ffliw

 

Grwpiau cymwys ar gyfer brechlynnau ffliw a phigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref

 

Ynglŷn â'r brechlynnau