Neidio i'r prif gynnwy

Yn eu geiriau eu hunain

Cynnydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

Geoff Ryall-Harvey, Llais

"LLais yw olynydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ac, fel y cyfryw, mae gennym hanes hir o fonitro a chraffu ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. ​   Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gweld llawer o newidiadau ac rydym yn ystyried BIPBC fel sefydliad newydd bron â bod gyda ffocws ac ethos gwahanol. ​

Mae Cadeirydd, Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Meddygol a Chyfarwyddwr Nyrsio parhaol bellach wedi eu penodi ac mae llai o benodiadau dros dro.​  Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o sefydlogrwydd a pharhad nad yw wedi bod yno ers cryn amser.

Mae'r Bwrdd yn parhau i ymdrin â phroblemau'r gorffennol ond mae'n defnyddio dulliau gwahanol a mwy agored o gynnwys cleifion a'r cyhoedd yn ei gynlluniau a'i benderfyniadau.  Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys cyfarfodydd cyhoeddus i drafod pryderon am ysbytai cymunedol a phractisau meddygon teulu yn Nhywyn a Betws y Coed. ​  Mae yna hefyd ymrwymiad o'r newydd i ymgysylltu ac ymgynghori ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth ymarferol yn hyn o beth. ​

Mae gan y Bwrdd newydd lawer o heriau; rhai sydd wedi bod yno erioed megis recriwtio ond hefyd y ffocws o’r newydd ar gyllid ac arbedion ariannol a fydd yn gwneud y dasg o adnewyddu yn anos. ​

Dylai fod yn glir nad yw Meddygon, Nyrsys a staff eraill Betsi Cadwaladr mewn Mesurau Arbennig a'u bod wedi ymrwymo i ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion.  Cyfrifoldeb Bwrdd Betsi Cadwaladr yw eu helpu i gyflawni hyn. ​

Mae'n ddechrau da ond mae'n hanfodol bod y Bwrdd yn parhau i wrando ac ymgysylltu â phobl yng Ngogledd Cymru er mwyn cydweithio a darparu'r gofal GIG y maent yn ei haeddu.  Mewn cyfnod heriol yn ariannol, ni fydd hyn yn hawdd."

Jan Tomlinson, Unsain

"Wel am flwyddyn rydyn ni wedi'i chael fel staff ers cael ein huwgyfeirio i Fesurau Arbennig!

Mae gennym ni Brif Weithredwr a Chadeirydd newydd, y ddau ohonynt yn cynnwys undebau llafur ym mhopeth a wnânt gan gofleidio gwir ysbryd Gweithio mewn Partneriaeth. ​ Rydym ni fel partneriaid Undebau Llafur yn cydnabod nad ar chwarae bach y gallwn adael y Mesurau Arbennig - mae angen dal ati!​ Ond rydym yn mynd i'r cyfeiriad cywir drwy'r newidiadau yr ydym yn eu gweld ac yn rhan ohonynt.

Teimlwn y gwrandewir ar staff ac yn bwysicach fyth, mae eu barn yn cyfrif."

Mike Parry, Aelod Annibynnol Cyswllt ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

"Flwyddyn ar ôl rhoi'r mesurau arbennig ar waith, mae'n gyfle i ni fyfyrio ac archwilio ein taith hyd yn hyn. ​ Mae pen y daith yn bwysicach na'r man cychwyn.​

Rwy'n dawel fy meddwl yn gwybod fod gan y Bwrdd ymdeimlad o bwrpas, eu bod yn gweithredu fel tîm, yn gweithio’n galed  ac yn gydweithio tuag at ddatrysiad posibl - i’r hyn sy’n jig-so cymhleth iawn. ​

Bydd yr atebion go iawn yn dod gan ein hased mwyaf gwerthfawr - pobl, sy'n gwneud y swyddi anoddaf yn y cyfnod a'r amgylchiadau anoddaf. ​ Yr hyn sy’n gwbl amlwg yw bod yn rhaid newid diwylliant o’r brig i lawr a gobeithio y bydd y Bwrdd newydd yn cyflawni’r newid hwnnw, nid drwy orfodi newidiadau, ond drwy wrando a gweithio gyda staff a’r cyhoedd i wneud y newidiadau hynny ar y cyd, gyda chydymdeimlad ac yn wybodus.

Roedd y mesurau arbennig yn mynnu newid a hunan-archwilio gwrthrychol a hoffem feddwl fod y Bwrdd a'r Grŵp SRG wedi gwneud hynny.​ Mae'r rhan fwyaf o'n haelodau SRG yn profi pob rhan o'r gwasanaeth iechyd fel y defnyddwyr, y cleifion, y rhai sy'n sâl, sy'n marw, y rhai sy'n gwella, a'r rhai sydd wedi gwella!

Yn y SRG rydym yn ehangu ein sylfaen wybodaeth, trwy recriwtio mwy o sefydliadau - sy'n fwy na chyfarwydd â'r problemau y mae eu rhanddeiliaid sectoraidd yn eu hwynebu. ​  I fod yn deg â'r Bwrdd newydd, mae wedi cydnabod efallai nad ymgynghorwyd yn briodol â'r SRG yn y gorffennol ar gynllunio a datblygu cynlluniau. ​ Bellach mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i gynnwys y Grŵp yn llawer cynharach wrth ystyried cynigion. ​

Mae gan y SRG drawstoriad da o Randdeiliaid, gyda meysydd amrywiol o arbenigedd - sy'n sicr yn gallu craffu a chynnig syniadau ac atebion i'r Bwrdd, er mwyn darparu gwasanaethau mewn ffordd well.

Mae newid a disgwyliadau cymdeithasol wedi dod yn broblem enfawr – yn sicr o ran costau canlyniadol. Mae’r hyn a oedd cenedlaethau blaenorol yn ei ystyried yn rhwymedigaeth neu'n fendith bellach yn cael ei ystyried yn anghenraid a chyfrifoldeb y wladwriaeth a phopeth sydd ynghlwm wrth hynny. ​ 

I gloi, rwy’n obeithiol iawn y bydd y Bwrdd newydd yn llwyddo lle mae eraill wedi methu, gydag amser, oherwydd nid oes llawer o atebion cyflym ar gael i ni.” ​

Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant

"Mae wedi bod yn galonogol gweld yr ymgyrch tuag at sefydlogrwydd o fewn strwythur y Bwrdd Iechyd dros y 12 mis diwethaf.

Fel Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, edrychaf ymlaen yn fawr at y dyfodol a chael gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o dan arweiniad Dyfed Edwards a Carol Shilabeer.

Gyda’n gilydd, rwy’n siŵr y gallwn ddarparu’r gwasanaethau Iechyd a Gofal gorau i bobl Gogledd Cymru a bodloni anghenion ein cymunedau ar draws y rhanbarth."

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: blwyddyn yn ddiweddarach, lawrlwytho digidol