Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd sy'n gweithredu'n dda

Galwodd adroddiad gan Archwilio Cymru ar effeithiolrwydd y Bwrdd ym mis Chwefror 2023 am gamau brys i fynd i’r afael â chwalfa mewn perthnasoedd o fewn y Bwrdd. Amlygodd yr adroddiad sut yr oedd hyn yn peryglu gallu'r Bwrdd  i ymdrin â’r heriau niferus yr oedd yn eu hwynebu. ​ Roedd beirniadaeth hefyd o’r nifer uchel o staff dros dro a oedd mewn swyddi uwch arweinyddiaeth.

Cynnydd a wnaed: 

  • Rydym wedi cryfhau ein harweinyddiaeth gyda nifer o uwch benodiadau parhaol i'r Bwrdd. ​ Mae hyn yn cynnwys penodi Cadeirydd a Phrif Weithredwr parhaol. ​ Mae gan y bobl a benodir y sgiliau a'r arbenigedd i arwain y sefydliad ac mae yna ddeinameg newydd ar lefel y Bwrdd. 
  • Dywedodd ail-adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd (Archwilio Cymru, Chwefror 2024) fod y Bwrdd mewn sefyllfa fwy sefydlog a bod perthnasoedd gwaith ymhlith uwch arweinwyr yn fwy cadarnhaol. ​ 
  • Mae Aelodau Annibynnol newydd wedi’u penodi i’r Bwrdd i ddarparu craffu, cymorth ac arbenigedd a disgwylir i ragor o aelodau newydd ddechrau ym mis Mawrth 2024. ​ 
  • Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ar leihau rolau dros dro uwch. Gwnaethom leihau nifer yr uwch staff dros dro o 41 ym mis Rhagfyr 2022 i 2 ym mis Rhagfyr 2023. 
  • Mae Rhaglen Datblygu Bwrdd yn sicrhau bod gan aelodau'r Bwrdd ddealltwriaeth ddofn o faterion ac mae'r rhain yn cynnwys cyflwyniadau manwl ac ymweliadau â gwasanaethau. 

Cynlluniau at y Dyfodol 

  • Byddwn yn cynnwys y meysydd a nodwyd i’w gwella fel rhan o Fesurau Arbennig i mewn i’n dull cynllunio cyffredinol. ​ Mae’r ffordd hon o weithio yn sicrhau ein bod yn ymgorffori’r hyn a ddysgwyd gennym ac yn gwneud y defnydd gorau o’n holl adnoddau. 
  • Mae cynlluniau yn eu lle i recriwtio i'r swyddi parhaol sy'n weddill i ddod â'r Bwrdd i gapasiti llawn. ​ 

​​​​​​​Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: blwyddyn yn ddiweddarach, lawrlwytho digidol