Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun clir y gellir ei gyflawni 2023/24

Roedd llawer o'r pryderon a godwyd gan Lywodraeth Cymru yn gysylltiedig â'n strwythur fel Bwrdd Iechyd (ein trefniadau llywodraethu). Os ydym am ddarparu'r iechyd a'r gofal gorau posibl i bawb, yna rhaid i ni gael y strwythur gorau bosibl. ​ Bellach, rydym yn canolbwyntio ar gael y cynlluniau, y prosesau a'r gweithdrefnau cywir yn eu lle er mwyn darparu gwasanaethau â'r gwerth gorau i'n poblogaeth.  

Cynnydd a wnaed  

  • Bellach, mae gennym Fframwaith Cynllunio Integredig sydd wedi'i ddatblygu a'i gymeradwyo gan y Bwrdd. ​ Mae hyn yn golygu ein bod mewn sefyllfa well i gynllunio ar draws ein holl wasanaethau. ​ 
  • Yn ogystal, mae gennym Fframwaith Perfformiad Integredig sydd wedi'i ddatblygu a'i gymeradwyo gan y Bwrdd. ​ Mae hyn yn golygu ein bod mewn sefyllfa well i ddeall perfformiad ar draws ein holl wasanaethau. ​ 
  • Mae gennym gynllun ar gyfer rheoli arian yn well. 
  • Rydym wedi hyfforddi dros 400 o staff ar sut i brynu gwasanaethau a thalu amdanynt. ​  
  • Rydym yn datblygu ein Cynllun Blynyddol yn ogystal â chynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf. ​ Bydd y rhain yn cymryd ein hymateb i'r Mesurau Arbennig i ystyriaeth ac yn sicrhau bod ein hymagwedd yn cael ei drin fel mater o drefn ymhlith blaenoriaethau ehangach y Bwrdd Iechyd. ​  

Cynlluniau at y dyfodol 

  • Cytuno ar ein Cynllun Blynyddol a'i gyhoeddi  

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: blwyddyn yn ddiweddarach, lawrlwytho digidol