Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddiad Mesurau Arbennig

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd y Bwrdd Iechyd yn cael ei roi mewn mesurau arbennig mewn ymateb i heriau parhaus (gellir gweld y dataniad llawn ar wefan Llywidraeth Cymru).

Ochr yn ochr â hyn, mae ein Cadeirydd, Mark Polin, Is-gadeirydd, Lucy Reid ac aelodau annibynnol y Bwrdd wedi sefyll i lawr. Bydd y Gweinidog Iechyd rŵan yn penodi Cadeirydd newydd a nifer o aelodau annibynnol newydd i weithio ochr yn ochr a’n Tîm Gweithredol.

Dywedodd Gill Harris, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Yn dilyn cyhoeddiad adroddiad Archwilio Cymru i effeithiolrwydd y Bwrdd yr wythnos ddiwethaf ac yn sgil yr heriau sylweddol yr ydym yn parhau i’w wynebu, mae’r Gweinidog Iechyd heddiw wedi cyhoeddi y bydd y Bwrdd Iechyd yn cael ei roi mewn Mesurau Arbennig.

“Er bod hyn yn hynod siomedig, rwyf yn cydnabod bod mwy angen ei wneud yn gynt i adennill hyder ein staff a’n cymunedau.

“Bydd y lefel uwch o ymyrraeth a chefnogaeth y bydd mesurau arbennig yn ei ddarparu yn golygu gweithio yn agosach gyda Llywodraeth Cymru a datblygu cynllun gwella gyda cherrig milltir allweddol. Bydd y trefniadau hefyd yn cynnwys creu tîm trawsnewid y Bwrdd Iechyd yn ystod yr wythnosau nesaf.

“Mae ymrwymiad ac ymdrech ein 19,000 o staff wedi cael ei gydnabod a bydd y penderfyniad hwn yn ein helpu i sicrhau bod ein cymunedau yn cael y gwasanaethau maen nhw’n ei disgwyl ac yn ei haeddu.

“Hoffwn ddiolch i Mark Polin, Lucy Reid a’n holl aelodau annibynnol am eu cefnogaeth yn ystod amseroedd mwyaf heriol y mae’r GIG erioed wedi wynebu.”