Neidio i'r prif gynnwy

Arweinyddiaeth ac Ymgysylltu Cryf

Rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar wella ein diwylliant, y ffordd rydyn ni’n dynodi, yn datblygu ac yn denu arweinwyr ac mae’n rhaid i ni wella’r ffordd rydyn ni’n ymgysylltu gyda'n cymunedau, ein staff a'n rhanddeiliaid a'u cynnwys. 

Fel Bwrdd rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu’n uniongyrchol â’n staff, ein cymunedau a’n partneriaid sydd i gyd â rhan bwysig i’w chwarae yn ein taith o wella. 

Rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni weithio'n agos gyda'n staff, ein cymunedau a'n partneriaid i wneud pethau'n iawn. ​ Mae hyn yn golygu nid yn unig ymgysylltu cynnar, ond parhaus, lle rydym yn gwrando ar brofiadau ac arbenigedd pobl eraill ac yn dysgu oddi wrthynt.

Rydym wedi ymrwymo i gynnal arweinyddiaeth gref, weladwy yn fewnol ac yn allanol, gan gynnwys gyda'r cyfryngau a'r cyhoedd i ailadeiladu ymddiriedaeth yn y ffordd yr ydym yn rhedeg ein gwasanaethau. ​  

Cynnydd a wnaed 

  • Mae Fframwaith Datblygu Arweinyddiaeth yn cael ei roi ar waith i helpu i ddenu arweinwyr a'u datblygu.  ​ Mae gweithdai a sesiynau’n cael eu cynnal gydag arbenigwyr arweinyddiaeth a newid diwylliant, fel yr academydd blaenllaw  Michael West  a chyn Brif Weithredwr yswiriant Admiral, Henry Engelhart.  
  • Mae'r Bwrdd wedi dechrau cyfarfod â chymunedau ar draws Gogledd Cymru i roi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a darganfod mwy am y cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae'r dull hwn yn cael ei ddefnyddio i gynyddu amlygrwydd a chryfhau ymgysylltiad â chymunedau ar draws Gogledd Cymru. ​ Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol mewn canolfan gymunedol yn Llandudno ac rydym wedi cael dwy sgwrs gyda chymunedau hyd yn hyn eleni lle mae pobl wedi gallu siarad â staff rheng flaen i ddysgu am eu gwaith o ddydd i ddydd a chwrdd ag aelodau’r Bwrdd a oedd yn gallu i roi cipolwg ar gynlluniau’r bwrdd iechyd ar gyfer y dyfodol. Rydym yn cynllunio mwy.  ​
  • Mae Adroddiad Profiad y Dinesydd newydd wedi'i gyflwyno i hysbysu aelodau'r Bwrdd am y themâu allweddol sydd o ddiddordeb a phryder i'r cyhoedd. 

Cynlluniau at y Dyfodol 

  • Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ddatblygu’r ffordd y mae’n ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid, o ran rhannu gwybodaeth mewn ffordd agored a gonest a hefyd i wella’r cyfleoedd sydd gan bobl i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r Bwrdd, staff y GIG a gwasanaethau.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: blwyddyn yn ddiweddarach, lawrlwytho digidol