Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad, canlyniadau a phrofiadau gwell

Rydym yn gwybod bod pobl yn rhwystredig ynghylch faint o amser roedd rhaid aros am apwyntiadau. Mae gormod o bobl yn cael anhawster i gael mynediad at Feddyg Teulu neu ddeintydd GIG ac mae gormod yn aros yn rhy hir am apwyntiadau ysbyty a phrofion diagnostig pwysig.  

Ar adeg cael ein rhoi dan Fesurau Arbennig, cafodd nifer o’n gwasanaethau eu herio a thros y flwyddyn ddiwethaf mae cryn ymdrech wedi’i wneud i wella’r meysydd hyn. ​  

Cynnydd a wnaed 

  • Rydym wedi sefydlu Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru i fynd i'r afael â recriwtio, cadw ac uwchsgilio staff o fewn y proffesiwn deintyddol. Mae’n darparu 8,000 o leoedd ychwanegol i gleifion ers agor ym mis Hydref 2022. ​ 
  • Mae ein Practisau a Reolir gan Feddygon Teulu wedi cyrraedd y safonau mynediad cenedlaethol eleni.
  • Sefydlwyd tair canolfan hyfforddi ym mhractisau Byrddau Iechyd (ardaloedd y Gorllewin a’r Canol) drwy’r Academi Gofal Sylfaenol. ​ Mae pedwaredd canolfan ar y gweill yn ardal y Dwyrain. Manteision y rhain yw: helpu i gadw meddygon teulu â chynigion swyddi gwell, cefnogi hyfforddiant mewn ardaloedd gwledig a gall meddygon teulu ymgymryd â hyfforddiant yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • Rydym wedi gweld gostyngiad o 62% yn nifer y bobl sy'n aros dros 156 wythnos. Maent bellach naill ai wedi cael dyddiad ar gyfer eu hapwyntiad cyntaf neu wedi dechrau triniaeth. Mae rhai heriau yn parhau o fewn Orthodonteg ond rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r rhain.  ​
  • Rydym wedi gweld gostyngiad o 52% yn nifer y bobl sy’n aros 52 wythnos am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf, mae hyn yn cyfateb i 13,000 o bobl. 
  • Rydym wedi gweld gostyngiad o 42% yn nifer y bobl sy’n aros am 104 wythnos o gymharu â’n sefyllfa y llynedd, sy’n fwy na 6,000 o bobl. ​ 
  • Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol mewn gofal wedi'i gynllunio. Mae hyn yn ymwneud yn arbennig â gwasanaethau Orthopedig, gyda ffyrdd newydd o weithio yn Abergele ac achos busnes cymeradwy ar gyfer canolfan orthopedig yn Llandudno. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael eu gweld yn gynt ar safle penodol sy'n rhedeg am 50 wythnos y flwyddyn. ​ Bydd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gwtogi ein rhestrau aros.  ​
  • Mae nifer y cleifion sy’n aros mwy nag wyth wythnos am brawf diagnostig wedi parhau i ostwng yn sylweddol bob mis gyda 5,943 o bobl yn aros ym mis Tachwedd 2023 o gymharu â bron i 10,000 ym mis Tachwedd 2022. 
  • Gwasanaethau Fasgwlaidd: Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru eu hadroddiad ar wasanaethau fasgwlaidd ac yn dilyn arolygiad dirybudd, cafodd y gwasanaeth ei isgyfeirio o 'wasanaeth y mae angen ei wella'n sylweddol'. ​Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r argymhellion gwella a nodwyd mewn nifer o adolygiadau allanol, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Llawfeddygon ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. ​ Gellir gweld tystiolaeth o effaith y gwaith gwella ym mherfformiad y gwasanaeth drwy gydol 2022, yn erbyn y dangosyddion allweddol canlynol, a amlinellir yn Natganiad NVR o Adroddiad y Gwledydd (Tachwedd 2023). ​ Mae canlyniadau a chyfraddau goroesi wedi gwella ar gyfer pobl sydd wedi cael atgyweiriad AAA, llawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon a thrychiadau, er enghraifft. 
  • Iechyd Meddwl: Er bod arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth iechyd meddwl (gan gynnwys gwasanaethau plant a phobl ifanc) yn parhau i fod yn her, mae nifer o arolygiadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru cadarnhaol wedi'u cynnal dros y 12 mis diwethaf yn amlygu fod y gwasanaeth yn sefydlogi. ​Mae adolygiad o ansawdd a diogelwch cleifion mewnol iechyd meddwl yn cael ei gynnal i weld lle mae gwelliannau wedi'u gwneud a'u cynnal. ​  
  • Ers lansio gwasanaeth 111 Opsiwn 2 y llynedd, mae'r bwrdd iechyd wedi cymryd mwy na 8,000 o alwadau gan bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl brys. Mae adborth wedi dangos bod 99.3% o alwyr wedi nodi gostyngiad yn eu sgorau trallod ar ôl dod i gysylltiad ag ymarferwyr lles ymroddedig. Mae cyfeiriadau at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol wedi gostwng 8%.
  • Ysbyty Wrecsam Maelor yw'r ysbyty cyntaf yng Nghymru i gynnal triniaeth newydd sy'n tynnu tiwmorau neu feysydd amheus ar y bledren. Mae’r driniaeth yn defnyddio Abladiad Laser Traws Wrethrol (TULA), sef archwiliad o'r bledren gan ddefnyddio camera ar diwb tenau hyblyg â laser i drin y bledren. Bydd hyn yn gwella canlyniadau a phrofiad pobl.  ​
  • Y Bwrdd Iechyd yw'r cyntaf yn y DU i ddefnyddio'r feddalwedd deallusrwydd artiffisial (AI), o'r enw Galen, yn glinigol i helpu i wneud diagnosis o ganser y fron. 
  • Mae dull peilot “prawf yn syth” wedi’i roi ar waith ar gyfer rhai cleifion canser. Mae’n galluogi i gleifion gael prawf mpMRI yn gynt ar ôl cael eu cyfeirio ar gyfer diagnosteg ar lwybr ‘canser posib’, naill ai drwy gael eu brysbennu gan Nyrs Arbenigol Glinigol neu Feddyg Ymgynghorol heb fod angen eu gweld yn gyntaf. Mae hyn wedi galluogi cleifion i gael eu gweld yn gyflymach, a chael sgan MRI tua 18 diwrnod ar ôl eu cyfeirio gan feddyg teulu.
  • Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cwblhau gwaith ehangu ar Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam, sydd wedi creu mwy o ystafelloedd ymgynghori a thriniaeth ar gyfer cleifion sydd angen gofal brys. ​ 
  • Mae’r lolfa ryddhau yn Ysbyty Glan Clwyd wedi’i gwella ac mae bellach yn darparu canolbwynt rhyddhau ar gyfer cleifion am hyd at 24 awr, gan helpu i reoli llif cleifion drwy’r ysbyty a lleihau oedi diangen i’r bobl hynny sy’n barod i fynd adref. 
  • Mae canlyniadau Arolwg Hyfforddiant Cenedlaethol diweddar gan y GMC yn dangos bod mwy na 90% o feddygon dan hyfforddiant yn fodlon ar ansawdd yr oruchwyliaeth glinigol, y profiad a’r addysg a gânt yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd, ac yn yr un arolwg daeth i'r brig fel y lle gorau i hyfforddi yn y DU yn ôl Meddygon Iau. 

Cynlluniau at y Dyfodol 

  • Rydym yn symud ymlaen â'n cynllun i ddatblygu canolfan lawfeddygol orthopedig a chanolfan ragoriaeth yn Llandudno. ​ Bydd yn cael ei leoli i ffwrdd o'n safleoedd ysbytai acíwt mwy fel na fydd y staff, y gwelyau a'r gwasanaeth cyfan yn cael eu heffeithio gan y galw brys am ofal ar safle'r ysbyty. Mae'r ffordd hon o weithio yn llwyddiannus iawn ar draws y DU a'r nod yw darparu 1,900 o driniaethau orthopedig y flwyddyn yng Ngogledd Cymru. ​ 
  • Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i nodi ffyrdd o leddfu pwysau gofal brys a gwella profiad ein cleifion.
  • Cwtogi oedi ar draws ein Hadrannau Achosion Brys: Mae pobl yn dal i aros yn rhy hir i gael eu gweld a'u trin. ​ Mae'r perfformiad yn erbyn y targed pedair awr wedi bod yn gyson is na'r lefel ddisgwyliedig. ​ Ar ôl aros yn gyson o amgylch 69% yn y tri mis blaenorol, gostyngodd canran y cleifion sy'n profi amseroedd aros o fwy na phedair awr yn ein Hadrannau Achosion Brys i 66.3% ym mis Tachwedd 2023.  ​

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: blwyddyn yn ddiweddarach, lawrlwytho digidol