Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiadau annibynnol a'n hymatebion

Mae gennym nifer o feysydd ffocws ac rydym yn cyfrannu at nifer o adolygiadau annibynnol a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i nodi sut y gallwn gael yr effaith fwyaf cadarnhaol yn y meysydd canlynol: ​

  • Diogelwch Cleifion Iechyd Meddwl Mewnol
  • Portffolio’r Gweithredwyr
  • Staff Dros Dro
  • Cynllunio
  • Rheoli Caffael Contractau
  • Diogelwch Cleifion
  • Systemau Llywodraethu Clinigol
  • Cloriannu Adolygiadau Iechyd Meddwl
  • Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd
  • Gwasanaethau Fasgwlaidd

Fel Bwrdd rydym wedi trafod pedwar o’r rhain hyd yn hyn, sydd i’w gweld isod, ynghyd â’n hymatebion iddynt:

Adolygiad Ymateb
Adolygiad Annibynnol o bryderon a godwyd ynghylch Diogelwch Cleifion BIPBC   Ymateb BIPBC i'r Adolygiad Annibynnol o bryderon a godwyd ynghylch Diogelwch Cleifion ​
Adolygiad Annibynnol o Benodiadau Dros Dro i Swyddi Gweithredol yn BIPBC ​ Ymateb BIPBC i'r Adolygiad Annibynnol o Benodiadau Dros Dro i Swyddi Gweithredol ​ 
Adolygiad Annibynnol o Swyddfa Ysgrifennydd Bwrdd BIPBC ​  Ymateb BIPBC i'r Adolygiad Annibynnol o Swyddfa Ysgrifennydd Bwrdd BIPBC​ 
Adolygiad Annibynnol o Ddiogelwch Gwasanaethau Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC  Ymateb BIPBC i Adolygiad Annibynnol Diogelwch Gwasanaethau Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC ​

Mae’r themâu allweddol sy’n dod i’r amlwg o’r adolygiadau hyd yma, yn cwmpasu’r canlynol:

  • Data, deallusrwydd a mewnwelediad
  • Diwylliant
  • Rheoli risg
  • Cynnwys cleifion, teuluoedd a gofalwyr
  • Model gweithredu
  • Llywodraethu a chydymffurfiaeth y sefydliad
  • Cynllunio integredig

Bydd y themâu hyn yn cael eu hymgorffori mewn cynllunio ar gyfer y dyfodol ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt.