Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych i gael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd Iechyd y mis nesaf

Caiff cynlluniau terfynol i ailddatblygu gwasanaethau iechyd yn Y Rhyl eu cyflwyno i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y mis nesaf.

Caiff Achos Busnes Llawn y prosiect i ailwampio gwasanaethau a ddarperir ar gyfer trigolion yn Y Rhyl a Gogledd Sir Ddinbych ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd Iechyd ar 12 Tachwedd.

Bydd y prosiect yn darparu ystod o wasanaethau o ysbyty newydd ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra, yn ogystal ag adnewyddu adeilad presennol rhestredig Gradd-II yr ysbyty.

Bydd gwasanaethau'n cynnwys gwelyau cymunedol, gwasanaeth mân anafiadau a salwch yr un diwrnod, man triniaeth, therapi i gleifion allanol a gwasanaethau therapi mewnwythiennol.

Byddai gwasanaethau iechyd rhyw, deintyddiaeth gymunedol, radioleg, seicoleg oedolion, iechyd meddwl pobl hŷn a gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc hefyd yn cael eu darparu o'r safle.

Mae gwelliannau seilwaith gan gynnwys mannau gwaith amlddisgyblaethol a gwelliannau i feysydd parcio hefyd wedi'u cynnwys yn y datblygiad.

Cyllideb y prosiect fydd rhyw £64m i gwblhau'r gwaith. Mae'r cynnydd mewn costau ers cwblhau'r Achos Busnes Amlinellol (OBC) yn cynnwys:

  • Cynnydd cyffredinol mewn costau sy'n gysylltiedig â'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer prosiectau'r sector cyhoeddus
  • £1.35m wedi'i gwario ar arbed ynni a mentrau gwyrdd, i fodloni gofynion Llywodraeth Cymru
  • £950,000 i fodloni gofynion rheoliadau tân wedi'u diweddaru
  • £3m i dalu am ystod gynyddol o wasanaethau yn y datblygiad
  • £3.6m tuag at atgyweiriadau adeileddol i adeilad presennol Ysbyty Brenhinol Alexandra
  • Cynnydd o £2.5m mewn costau rhaglen
  • £730,000 o gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â COVID-19 

Byddai'r rhaglen waith ddiwygiedig, o gael ei chymeradwyo, yn arwain at waith adeiladu ar yr ysbyty newydd yn dechrau ym mis Mawrth 2021, ac amcangyfrifir mai Chwefror 2023 fydd y dyddiad cwblhau.

Y nod i'r prosiect cyffredinol, gan gynnwys gwaith adnewyddu yn Ysbyty Brenhinol Alexandra, fyddai cwblhau'r gwaith ym mis Medi 2023.

Cymerodd fwy na 200 o bobl ran mewn arolwg dros yr haf i gasglu adborth ar y prosiect. Mae adborth ar faterion gan gynnwys parcio, cynlluniau ar gyfer yr adeiladau sydd eisoes ar safle'r ysbyty yn parhau i fod ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr y Prosiect: “Cawsom adborth gwirioneddol gadarnhaol ac adeiladol dros yr haf sydd wedi helpu i lunio'r ffordd y mae'r cynnig wedi datblygu.

“Rydym bellach yn edrych ymlaen at gyflwyno'r Achos Busnes Llawn y mis nesaf ac i barhau i ddatblygu'r prosiect."

Os caiff y prosiect ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd ar 12 Tachwedd, caiff y prosiect ei anfon i Lywodraeth Cymru i gael ei graffu a'i gymeradwyo ymhellach.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd trwy'r ddolen hon.