Neidio i'r prif gynnwy

Seicolegydd o Wrecsam yn cael ei chydnabod mewn gwobrau diabetes cenedlaethol mawreddog

Mae seicolegydd sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi ennill nifer o’r gwobrau cenedlaethol gorau am ei gwaith i wella’r gofal a’r gefnogaeth a gynigwyd i bobl sy’n byw â diabetes.

Cydnabuwyd Dr Rose Stewart, Prif Seicolegydd Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y Gwobrau Ansawdd mewn Gofal Diabetes mawreddog, lle cafodd wobr am ei Chyfraniad Arbennig i Wasanaethau mewn Diabetes yn y GIG yng Nghymru. 

Llwyddodd Dr Stewart i ennill Gwobr yr Arwr Di-glod hefyd a chafodd ganmoliaeth uchel am ei gwaith gyda’r Grŵp Diabetes Cymru Gyfan i gyflwyno ystod o adnoddau hunangymorth i bobl sy’n byw â’r cyflwr. 

Mae’r Gwobrau Ansawdd mewn Gofal Diabetes yn cydnabod a gwobrwyo arfer arloesol sy’n dangos ansawdd mewn rheoli, addysg a gwasanaethau diabetes ar draws y Deyrnas Unedig. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn rhithiol eleni ar 15 Hydref oherwydd y cyfyngiadau COVID-19.

Mae diabetes yn gyflwr lle mae gormod o glwcos yn y gwaed gan nad yw’r corff yn gallu ei ddefnyddio’n gywir oherwydd diffyg inswlin. Mae dros 194,000 o bobl yn byw â diabetes yng Nghymru, sef y nifer uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae 61,000 o bobl ychwanegol yng Nghymru yn byw â diabetes Math 2 sydd heb gael diagnosis ffurfiol.

Mae pobl sydd â diabetes yn ddwywaith mwy tebygol o gael problemau fel iselder ac anhwylderau bwyta, ac mae cefnogaeth seicolegol arbenigol wedi’i ddynodi’n gyson fel maes sylweddol o angen ar draws y Deyrnas Unedig ers sawl blwyddyn.

Mae adnoddau hunangymorth Dr Stewart, ‘Siarad am Fath 1’, wedi’u datblygu i gydnabod, normaleiddio a mynd i’r afael â materion seicolegol cyffredin sy’n ymwneud yn benodol â byw â’r cyflwr.

Mae hyn yn cynnwys materion sy’n ymwneud â chwythu plwc a ffobia o nodwyddau, a all gael effaith sylweddol yn seicolegol, ac ar reoli diabetes.

Wedi’i ariannu gan Grŵp Diabetes Cymru Gyfan, mae’r adnoddau hyn wedi cael eu datblygu gyda chefnogaeth gan bobl sydd â phrofiad byw o’r materion hyn. Maent wedi cael eu cyhoeddi yn ddwyieithog trwy GIG Cymru ac ar gael ar draws yr holl unedau diabetes yng Nghymru.

Gyda mwy na 6,000 o unedau wedi’u hargraffu a’u dosbarthu i gleifion, mae’r gyfres ‘Siarad am Fath 1’ yn awr yn cynrychioli un o’r ymyriadau seicolegol diabetes mwyaf yn y byd.

Dywedodd Dr Stewart: “Gwyddom fod cefnogaeth seicolegol arbenigol yn aml ar goll i bobl sy’n byw â diabetes. Wrth ddatblygu’r gyfres ‘Siarad am Fath1’ rydym wedi gallu dangos fod pobl yn dal yn gallu gwella sut maent yn teimlo’n sylweddol drwy ddefnyddio adnoddau sy’n hawdd cael mynediad atynt.”

Mae Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru, wedi gweld effaith llyfrau Dr Stewart drosto’i hun.

Dywedodd: “Mae gennyf fab sy’n byw â diabetes math 1 ac rwy’n treulio llawer o fy amser yn gweithio gyda pobl sy’n byw â’r cyflwr. Rwy’n ymwybodol iawn o’r angen am fwy o gefnogaeth seicolegol i bobl sy’n byw â diabetes ac mae Diabetes UK Cymru ar hyn o bryd yn ymgyrchu ar y mater hwn. Roeddwn yn falch o weld bod y ddau lyfr newydd yn y gyfres ‘Siarad am Fath 1’, sef ‘Dim yn dda gyda Nodwyddau’ a Chwythu Plwc Diabetes, wedi cael eu derbyn fel petaent yn llyfrau Harry Potter newydd!  Maent wedi bod yn gymorth mawr o ran cefnogi’r gymuned Math 1 - ym mhob grŵp oed.”

Nid dyma’r tro cyntaf i arfer arloesol Dr Stewart gael ei gydnabod. Y llynedd bu iddi hi a’i chydweithwyr o dîm Gwasanaeth Diabetes Oedolion Ifanc Ysbyty Maelor Wrecsam ennill gwobr Ansawdd mewn Gofal i gydnabod y gofal arbennig y maent yn ei ddarparu i gleifion ar draws Sir y Fflint a Wrecsam. 

Ym mis Gorffennaf y llynedd, cafodd Dr Stewart ei henwi fel Pencampwr Clinigol Diabetes UK ar gyfer Gogledd Cymru. Yn y rôl hon, mae wedi datblygu adnoddau a mentrau i wella lles seicolegol pobl ar draws y rhanbarth sy’n byw â’r cyflwr.