Neidio i'r prif gynnwy

Teyrnged i nyrs 'ysbrydoledig' yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae staff o Ysbyty Maelor Wrecsam wedi talu teyrnged i'w ffrind a'u cydweithiwr annwyl, Wilbert Llobrera.

Roedd y Nyrs Staff, Wilbert, 46 oed, a fu farw'n drist iawn yr wythnos ddiwethaf, wedi gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam ers bron i naw mlynedd ac roedd gan ei gydweithwyr feddwl mawr ohono.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, roedd wedi gweithio fel nyrs sgrwb yn y theatr.  Cyn hyn, roedd Wil wedi gweithio ar Ward Erddig yn yr ysbyty.

Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn llawfeddygaeth wrolegol ac roedd ganddo rôl allweddol o ran sicrhau bod y llawdriniaethau hyn yn parhau yn ystod pandemig COVID-19.

Dywedodd, yr Athro Iqbal Shergill, sy'n Llawfeddyg Wrolegol Ymgynghorol: “Ar ran pawb yn Uned Wroleg Alan de Bolla yn Wrecsam, sioc o'r mwyaf oedd i ni glywed am y newyddion torcalonnus a thrist.

“Roedd Wil yn nyrs theatr eithriadol, yn rhagweithiol o ran wroleg, yn uchel ei barch gan bob un o'r tîm, ac roedd ganddo sgiliau cyfathrebu ardderchog.

“Roedd gennym ddyfodol gwych o'n blaenau, a bydd ei farwolaeth yn golled i gleifion Wroleg yn Wrecsam yn y tymor hir.

“Yn ystod yr argyfwng COVID-19 presennol, roedd ganddo rôl hollbwysig o ran ein helpu i sicrhau bod gwasanaethau llawdriniaeth wrolegol yn parhau i gael eu cynnal, ac roedd disgwyl iddo gofleidio'r broses o gyflwyno triniaeth trwy dechnoleg newydd ar gyfer canser y brostad yn Ysbyty Maelor maes o law.

“Bydd pob un ohonom yn dathlu ei angerdd dros lawdriniaeth wrolegol a byddwn yn cofio ein 'brawd' bach am byth!

“Duw a bendithio Wil a'i deulu."

Mae marwolaeth Wil wedi bod yn dorcalonnus i'w ffrindiau a'i gydweithwyr, gyda llawer ohonynt yn cyfrannu at dudalen GoFundMe a gafodd ei chreu i godi arian i'r teulu.

Dywedodd Dave Bevan, Rheolwr Theatrau yn Ysbyty Maelor Wrecsam: “Roedd Wilbert yn gydweithiwr ac yn ffrind annwyl iawn i bawb a oedd yn ei adnabod. Roedd yn garedig, yn ystyriol, yn barod ei gymorth, yn ddiwyd ac yn ddyn diymhongar.

“Mawr fydd ei golled i bob un o'i deulu yn y theatr. Mae'r tîm yn awyddus i estyn eu cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Wilbert.

“Gorffwys mewn hedd Wilbert – ein ffrind a'n cydweithiwr.”

Ychwanegodd Gareth Robinson, Cyfarwyddwr Safle Llym Ysbyty Maelor Wrecsam: “Ar ran yr holl staff yn yr ysbyty, hoffwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Wilbert.

“Roedd Wilbert yn aelod gwerthfawr o'r tîm ac roedd gan ei gydweithwyr feddwl mawr ohono.

“Achos tristwch mawr yw'r ffaith ein bod wedi colli aelod o staff annwyl iawn."

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Gill Harris, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r Cadeirydd, Mark Polin: “Rydym yn meddwl am deulu, ffrindiau a chydweithwyr Wilbert ar yr adeg hynod drist hon.

“Roedd Wilbert yn aelod gwirioneddol werthfawr o'n tîm, mae pob un o'i gydweithwyr yn ei ddisgrifio fel ystyriol a diwyd, ac roedd ganddo wên bob amser.

“Mae hon hefyd yn adeg anodd i'n staff ac rydym yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt."

Os hoffech roi rhodd er cof am Wilbert, ewch i: https://www.gofundme.com/f/in-memory-of-wilbert-catalanllobrera?utm_source=customer&utm_campaign=p_cp%20share-sheet&utm_medium=copy_link_all&fbclid=IwAR3_QVDMGE4izS409qi7_KgIXkyIC3SJj2TZhyPaXGefg2Ai_oDAT5JcUG4