Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau'r Bwrdd Iechyd i drawsffurfio'r ffordd mae'n darparu gofal

Mae cynlluniau'n ar y gweill i drawsffurfio'r ffordd y darperir gofal ar draws Gogledd Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthi'n datblygu cynlluniau i sicrhau bod cleifion yn derbyn diagnosis a thriniaeth gynharach, ymysg ôl-groniad cynyddol a achoswyd gan y pandemig COVID-19.

Fel rhan o gynllun hirdymor ar gyfer darparu gofal dewisol, mae'r Bwrdd Iechyd yn ymchwilio'r posibilrwydd o sefydlu Canolfannau Diagnosis a Thriniaeth i ddarparu apwyntiadau cleifion allanol, profion diagnostig a llawdriniaeth dydd.

Byddai'r canolfannau'n help i sicrhau bod cleifion yn derbyn diagnosis a thriniaeth gynharach, gyda llai o oedi oherwydd y pwysau o ofal heb ei drefnu.

Byddai hefyd yn darparu budd economaidd pendant drwy ostwng y ddibyniaeth ar y sector breifat a'r darparwyr GIG yn Lloegr i drin cleifion Gogledd Cymru yn sylweddol.

Y gobaith yw y bydd y cynlluniau'n arwain at gyflwyno swyddi clinigol newydd a fydd yn gwella'r broses recriwtio a chadw staff.

Mae nifer o sefydliadau ar draws y DU wedi cyflwyno canolfannau diagnosis a thriniaeth.  Yn ddiweddar, mae'r dull wedi ei ddefnyddio yn Ne Cymru, ble mae canolfannau'n cael eu defnyddio'n bennaf ar gyfer gwasanaethau canser.

Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd Iechyd yn y camau cynnar o archwilio nifer o opsiynau, a disgwylir i'r Bwrdd drafod Achos Busnes Strategol Amlinellol ym mis Ionawr 2021.

Byddai'r prosiect trawsffurfiol yn gofyn am fuddsoddiad gwerth miliynau gan Lywodraeth Cymru.  Os caiff ei gymeradwyo, nid oes disgwyl i'r ganolfan fod yn weithredol hyd nes 2023.

Yn y cyfamser, mae datrysiadau tymor byr a chanolig yn cael eu harchwilio i helpu i fynd i’r afael â'r ôl-groniad cynyddol o bobl sy'n aros dros 36 wythnos am ofal wedi ei drefnu.

Ers diwedd mis Medi 2020, mae nifer y bobl yng Ngogledd Cymru sy'n aros dros 36 wythnos am ofal wedi ei drefnu wedi cynyddu i dros 40,000.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymchwilio cyflwyno adeiladau modiwlaidd oddi wrth safleoedd ysbytai llym, a allai gynnal profion diagnostig, endosgopau a llawfeddygaeth achos dydd. 

Byddai hyn yn darparu amgylchedd mwy diogel rhag COVID-19 ar gyfer staff a chleifion, ac yn cefnogi cyflwyniad model newydd o ofal, a fydd yn gallu ei gynyddu yn y dyfodol gyda chyflwyniad Canolfannau Diagnosis a Thriniaeth mwy.

Dywedodd Gill Harris, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Mae'r pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar ofal wedi’i drefnu ac rydym yn cydnabod yn llawn bod hwn yn gyfnod pryderus i bobl sy'n aros am driniaeth.

"Yn y tymor byr i ganolig, rydym yn dymuno cynnal mwy o apwyntiadau cleifion allanol a gweithgaredd theatrau gyda'r nos ac ar y penwythnosau.  Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yr adeiladau modiwlaidd ar waith erbyn Ionawr i gynyddu ein capasiti i ddarparu gofal wedi’i drefnu.

"Yn y tymor hirach, byddai'r Canolfannau Diagnosis a Thriniaeth arfaethedig yn cynnig platfform ar gyfer y dyfodol, gan ein galluogi i fynd i'r afael ag ôl-groniadau, lleihau'r pwysau ar ein Ysbytai Cyffredinol Dosbarth a thrin cleifion sy'n hynod fregus heb ymyriadau gan bwysau gofal heb ei drefnu neu ymchwyddiadau COVID-19 pellach.

Ychwanegodd Mark Polin, Cadeirydd BIPBC: "Mae hwn yn brosiect trawsffurfiol a fydd yn darparu buddion sylweddol ar gyfer y GIG a'r bobl ar draws y rhanbarth.

"Bydd cyflwyno'r Canolfannau Diagnosis a Thriniaeth yn ein caniatau i gadw gweithgaredd mwy clinigol o fewn y GIG yng Ngogledd Cymru gan sicrhau bod buddion economaidd hir dymor sylweddol a chymorth i hybu recriwtio a chadw staff. ”

Mae BIPBC wedi parhau i ddarparu gofal a thriniaeth brys drwy gydol y pandemig COVID-19, er efallai bod nifer o apwyntiadau a thriniaethau arferol wedi eu gohirio.

Mae nifer o'r gwasanaethau sydd wedi eu hoedi bellach wedi ail-ddechrau, er mae'r ffordd y maent yn cael eu rhedeg wedi eu haddasu i gadw at y mesurau pellach cymdeithasol. Gellir dod o hyd i ddiweddariad cynhwysfawr ar hyn ar wefan BIPBC: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/y-diweddaraf-ar-wasanaethau/