Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs arennol yn ennill prif wobr Cymru ar gyfer Nyrsio Arennol yng Nghymru

Mae nyrs arennol yn Ysbyty Glan Clwyd wedi ennill gwobr genedlaethol yn dathlu llwyddiant amlwg mewn gofal nyrsio arennol.

Enillodd Melanie Hayward, o Fwcle, wobr Liz Baker am Ragoriaeth mewn Nyrsio Arennol, a gyflwynwyd gan Rwydwaith Glinigol Arennol Cymru.

Ers dechrau ei rôl fel nyrs therapïau cartref 18 mis yn ôl, mae Mel wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi cleifion fel eu bod yn cael mynediad at Hemodialysis yn eu cartref. 

Trwy ddysgu sut i roi dialysis gartref, mae cleifion â phroblemau arennau ac arennol yn gallu osgoi nifer o deithiau i'r ysbyty i gael dialysis achub bywyd, gan drin eu cyflwr gartref yn lle hynny.

Mae gwaith Mel yn cynnwys darparu pwynt mynediad ar gyfer cleifion arennol sy'n cael mynediad at ddialysis yn eu cartref eu hunain.

Mae diwrnod arferol yn cynnwys darparu hyfforddiant dialysis cartref i gleifion sy'n cael mynediad at ofal yn yr uned arennol yn Ysbyty Glan Clwyd, ac ymweliadau dilynol gyda chleifion yn eu cartrefi eu hunain.

Dywedodd Mel: "Mae'n dipyn o sioc â dweud y gwir, ond mae'n hyfryd cael gwerthfawrogiad a chydnabyddiaeth am y gwaith yr ydym yn ei wneud i wella lles ac ansawdd bywyd pobl.

"Y wobr fwyaf yw cael cleifion yn ôl i'w cartref. Mae dialysis yn y cartref yn golygu y gall cleifion gael dialysis yn amlach, sy'n golygu nad yw'r tocsinau yn y corff yn casglu cymaint ac maent yn teimlo'n llawer gwell."

"Mae'r gefnogaeth yr ydym yn ei gael gan bob aelod o'n staff yn wych, felly mae'r wobr hon wir yn adlewyrchu ein holl waith fel tîm."

Cafodd Mel ei henwebu ar gyfer y wobr gan Liz Cariello, Rheolwr yr Uned Ddialysis yng Nglan Clwyd, am ei gwaith yn gwella mynediad cleifion at ddialysis yn y cartref.

Dywedodd Liz Cariello: "Ers i Mel ddechrau ar ei gwaith, mae hi wedi llywio'r rhaglen hemodialysis yn y cartref i'r pwynt ble mae'r capasiti wedi ei gyrraedd.

"Mae ganddi enw da ymysg ei chleifion ac mae'r gefnogaeth y mae'n ei roi i bob un yn wych.

"Mae gan Mel ddull hyblyg iawn a bydd yn rheoli ei horiau i gynnwys hyfforddi cleifion ar ba bynnag sifft mae arni, gan gynnwys y sifft nos.

"Mae Mel yn ysbrydoliaeth i nyrsio dialysis, mae pawb yn hoff iawn ohoni ac mae ganddi barch ymysg ei chydweithwyr a'i chleifion."

Mae'r wobr wedi ei henwi ar ôl y nyrs arennol, Liz Baker, a oedd yn gweithio yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Meddai Toni Hamlett, Rheolwr y Gwasanaethau Arennol: "Liz a fi oedd prif nyrsys y gwasanaeth pan sefydlwyd Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru yn 2009. Roedd hi'n gwbl ymrwymedig i'r gwasanaethau arennol a gweithiodd yno am nifer o flynyddoedd, a gwnaeth lawer o welliannau yn y cyfnod hwnnw.

"Mae Mel yn llawn haeddu'r wobr. Mae ei gwaith mewn therapïau cartref wedi gwthio'r rhaglen hemodialysis yn ei flaen

"Os oes rhwystr, mae'n dringo drosto ac yn dod o hyd i ffyrdd o gwblhau pethau er mwyn ei chleifion.  Bydd hi'n mynd i'r afael ag unrhyw her i sicrhau bod y cleifion yn gwella.

"Mae Mel y math o nyrs sy'n ysbrydoli ei chydweithwyr a'i chleifion, dyna pwy yw Mel.

"Mae hi'n anhygoel ac yn llawn haeddu'r wobr hon."

Mae Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru yn goruchwylio sut y gellir cynllunio a chomisiynu gwasanaethau arennol ledled Cymru.

Mae'r wobr yn parhau â rhediad o gydnabyddiaeth mewn seremonïau gwobrwyo i nyrsys arennol ledled Gogledd Cymru.

Yn 2018, enillodd Toni Hamlett ac Antonia Betetta wobr Hyrwyddwyr Cleifion Arennau Cymru mewn Proffesiynau Iechyd Meddygol, gan ddathlu'r gwasanaethau sy'n cefnogi cleifion arennol.