Neidio i'r prif gynnwy

'Nyrs ac unigolyn eithriadol' yn derbyn Gwobr Seren Betsi

Cyflwynwyd gwobr annisgwyl i ‘nyrs ac unigolyn eithriadol’ am ei ymroddiad i ddarparu’r gofal gorau posibl i oedolion ag anableddau dysgu. 

Kevin Jones, Nyrs Staff yn uned Tan y Coed, Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan yw’r aelod staff diweddaraf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i dderbyn gwobr Seren Betsi Star.

Mae’r wobr fisol hon yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr y GIG ar draws gogledd Cymru.

Mae Tan y Coed yn uned adsefydlu sy’n galluogi pobl ag anableddau dysgu i fyw mor annibynnol â phosib, wrth dderbyn gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gan ystod o weithwyr proffesiynol gofal iechyd

Enwebwyd Kevin i dderbyn y wobr gan ei gydweithiwr, Beth Woolley, a ddywedodd bod ei frwdfrydedd a gofal cleifion yn arbennig iawn.

Meddai: “Gall darparu gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fod yn anodd gyda chleifion ag anableddau dysgu.  Fodd bynnag mae agwedd trylwyr a chadarnhaol Kevin tuag at ei waith yn gwneud i bopeth edrych yn rhwydd.  Mae’n sylwi ar bopeth ac nid oes unrhyw beth yn ormod o drafferth. 

“Mae Kevin yn nyrs sy’n gweithio’n galed, ac oherwydd hyn, mae ei ymddrechion, brwdfrydedd, empathi, trylwyredd, gwybodaeth a’i ymagwedd gadarnhaol yn haeddu cydnabyddiaeth.  Mae’n batrwm enghraifft arbennig o nyrs ac mae’n dangos ei werth yn ddyddiol.

“Mae gan Kevin swyddogaeth allweddol hefyd i gadw ysbryd staff yn uchel a gwneud y gweithle yn fan cyfeillgar a phleserus i weithio ynddo.”

Ychwanegodd Dewi Evans, Rheolwr Uned Adsefydlu Tan y Coed:

“Nid yn unig mae Kevin yn nyrs staff anhygoel, mae o’n unigolyn anhygoel hefyd.  Mae’n feddylgar, gofalus a chydymdeimladol, nid yn unig gyda’r cleifion ond y tîm staff hefyd.

“Mae Kevin bob amser yn barod i ysgwyddo ac ymroi i brosiect, fel y gwnaeth dros dair blynedd o waith caled i geisio am Achrediaeth Rhwydwaith Asawdd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar gyfer Gwasanaethau Anableddau Dysgu yn Nhan y Coed.

“Y tu allan i’w waith fel nyrs staff anhygoel, mae’n ymgymryd ag ystod o dasgau a gorchwylion gwirfoddol.

“Mae’n rhan annatod o dîm nyrsio Tan y Coed ac mae’n ennyn clod i nyrsio anableddau dysgu.”