09.11.26
Mae mwy o bobl nag erioed yn cael eu cefnogi drwy Lwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gwasanaeth wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cyfranogiad, ymgysylltu cymunedol a gweithio mewn partneriaeth.
Mae’r llwybr yn dod â sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector ynghyd er mwyn sicrhau y gall pobl gael mynediad at gyngor, gwybodaeth a chymorth drwy gydol eu taith gyda dementia. Mae cymorth ar gael i unrhyw un sy’n bryderus am eu cof, sy’n byw gyda dementia neu sy’n gofalu am rywun sydd wedi’i effeithio gan y cyflwr.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn cyfleoedd cymorth cymheiriaid wedi dyblu, gan adlewyrchu'r galw cynyddol am wasanaethau sy'n helpu pobl i gysylltu ag eraill sydd â phrofiadau tebyg. Mae'r llwybr wedi ehangu ei gyrhaeddiad trwy ddigwyddiadau cymunedol, sesiynau gwybodaeth a mentrau Cyfeillion Dementia, gan godi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael ledled Gogledd Cymru.
Mae gwasanaethau Llywiwr Ysbyty wedi dod yn fwyfwy sefydledig mewn ysbytai, gan ddarparu cymorth hanfodol i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. Mae'r gwasanaeth yn helpu i sicrhau bod unigolion yn derbyn cymorth cydlynol yn ystod eu harosiadau yn yr ysbyty ac wrth iddynt ddychwelyd adref, gan wella parhad gofal a chymorth.
Mae’r llwybr hefyd wedi cryfhau partneriaethau gyda gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, cydweithwyr, prifysgolion a sefydliadau cymunedol, gan greu mwy o gyfleoedd ar gyfer pobl sydd â phrofiad byw o ddementia i helpu i lywio gwasanaethau, ymchwil a pholisïau.
Mae gwella opsiynau trafnidiaeth ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn parhau i fod yn ffocws allweddol. Yn ystod 2025/26, parhaodd partneriaid i ddatblygu datrysiadau trafnidiaeth gymunedol ledled Gogledd Cymru, gan gefnogi mentrau lleol, cryfhau partneriaethau lleol a gosod y sylfeini ar gyfer darparu trafnidiaeth gynaliadwy. Nod y gwaith hwn yw gwella mynediad at gymorth, gwasanaethau hanfodol a chyfleoedd cymdeithasol, gan helpu pobl i aros mewn cysylltiad â’u cymunedau a chynnal eu hannibyniaeth am gyfnod hirach.
Darperir Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru trwy bartneriaeth rhwng chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y Gymdeithas Alzheimer's, Age Cymru, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, The FDF a NEWCIS.
Mae’r cymorth sydd ar gael drwy’r llwybr yn cynnwys:
Dyma’r hyn a ddywedodd un unigolyn a ddaeth i ddigwyddiad a drefnwyd gan y Llwybr Cymorth Cof:
“Roeddwn mor falch o gael cwrdd â chi ddoe a chael clywed am y llwybr. Rwy'n teimlo bod cyfleoedd ar gael i fy ngŵr gael profiadau pleserus a chadarnhaol, ac rwy’n teimlo bod cyfleoedd i mi rannu gyda phobl eraill hefyd.
Dyma’r hyn a ddywedodd unigolyn arall a gafodd fynediad at y gwasanaeth:
“Roedd pawb yn hynod broffesiynol, yn garedig ac yn amyneddgar. Fe wnaethant fy helpu i ddeall y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael i mi, ac rwy’n hynod ddiolchgar am eu cymorth a’u harweiniad. Diolch yn fawr.”
Nid oes angen cyfeiriad gan Feddyg Teulu i gael mynediad at gymorth drwy'r llwybr. Mae Canolfan Dementia ym mhob sir ledled Gogledd Cymru, a gall unrhyw sy’n cael eu heffeithio gan ddementia gysylltu'n uniongyrchol am gymorth.
Am fwy o wybodaeth am Lwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru, cysylltwch gan ddefnyddio’r manylion isod:
Ffôn: 01492 542212
E-bost: NWmemorysupport@ctnw.org.uk
Gwefan: Gwybodaeth am Lwybr Cefnogi Cof Gogledd Cymru
Mae hwn yn un o lawer o wasanaethau a ariennir gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (RPB) , sy'n cefnogi cyflwyno amrywiaeth o fentrau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl a chymunedau ar draws y rhanbarth.