Bwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyhoeddi ymadawiad y Prif Weithredwr

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi y bydd ei Brif Weithredwr, Carol Shillabeer, yn gadael y sefydliad ar ôl tair blynedd a hanner yn y rôl, wedi iddi gael ei phenodi'n Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Swydd Gaerhirfryn a De Cumbria yng Ngogledd-orllewin Lloegr.

Ymunodd Carol Shillabeer â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Prif Weithredwr Dros Dro ym mis Mai 2023, yn ystod cyfnod o heriau sefydliadol sylweddol ac yn fuan ar ôl i'r Bwrdd Iechyd gael ei roi o dan Fesurau Arbennig.

Ers hynny, mae wedi arwain y sefydliad drwy gyfnod o sefydlogi a gwella, gan gydweithio â'r Bwrdd, y Tîm Gweithredol a chydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod ffocws clir yn parhau ar wella gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru.

Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

"Ar ran y Bwrdd, hoffwn longyfarch Carol ar ei phenodiad. Ymunodd Carol â Betsi Cadwaladr ar adeg hynod o heriol yn hanes y sefydliad ac mae wedi rhoi arweinyddiaeth ymrwymedig a chadarn dros y tair blynedd a hanner diwethaf.Mae llawer o waith eto i'w wneud, ac rydym yn glir iawn bod ein taith wella yn parhau.  Bydd y Bwrdd nawr yn ystyried y trefniadau arwain priodol, a bydd yn cyfleu'r rhain unwaith y bydd y prosesau angenrheidiol wedi'u cwblhau. Hoffwn ddiolch i Carol am ei gwasanaeth i'r Bwrdd Iechyd ac i bobl Gogledd Cymru, a dymuno pob llwyddiant iddi yn ei rôl newydd."

Dywedodd Carol Shillabeer:

"Mae wedi bod yn fraint fawr gwasanaethu fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae cydweithwyr ledled y sefydliad wedi'i gyflawni yn ystod cyfnod eithriadol o heriol. Rwyf wedi gweld drosof fy hun ymrwymiad ein staff i gleifion, teuluoedd a chymunedau ledled Gogledd Cymru.

“Mae'r cyfle i ddod yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Swydd Gaerhirfryn a De Cumbria yn gam nesaf cyffrous i mi yn broffesiynol, ond ni fydd gadael Betsi Cadwaladr a'r nifer o bobl yr wyf wedi gweithio ochr yn ochr â nhw yn hawdd.
 
"Rwy’n ddiolchgar i’r Cadeirydd, y Bwrdd, y Tîm Gweithredol a chydweithwyr ar draws y sefydliad am eu cefnogaeth, eu her adeiladol a’u hymrwymiad dros y tair blynedd a hanner diwethaf”.

Bydd Carol Shillabeer yn ymuno â'r sefydliad newydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd a bydd yn parhau i ymwneud yn llawn a'i rôl fel Prif Weithredwr tan yr adeg honno.  Bydd y Bwrdd Iechyd yn cadarnhau'r trefniadau arweinyddiaeth dros dro a'r rhai hirdymor maes o law.