'Dydy ein cleifion byth yn ein gadael' – Tîm arennol yn trefnu Gwasanaeth Coffa i gleifion

18.11.2026

Mae tîm arennol Ysbyty Glan Clwyd wedi trefnu Gwasanaeth Coffa hyfryd er mwyn i deuluoedd a ffrindiau ddathlu bywydau cleifion sydd bellach wedi marw.

Yn ystod y seremoni, a gynhelir yn yr Eglwys Farmor ym Modelwyddan yn ddiweddarach y mis hwn, mae Ruth Glover, Nyrs Clefyd Cronig yr Arennau, a Kalli McLaughlan, Nyrs Arbenigol mewn Therapïau Arennol yn y Cartref, yn dymuno i deuluoedd a ffrindiau ddathlu bywydau’r rhai a gollwyd oherwydd clefydau’r arennau.

Mae’r gwasanaeth yn agored i unrhyw un sydd wedi colli rhywun sydd yn annwyl iddyn nhw oherwydd clefyd yr arennau – nid dim ond y rhai a gafodd driniaeth o dan ofal arbenigol yn Ysbyty Glan Clwyd. Dywedodd Ruth eu bod bob amser yn cael eu cyffwrdd i’r byw pan fydd claf yn marw.

“Pan fyddwn yn colli claf, mae hynny’n effeithio’n fawr arnom ni. Mae hefyd yn effeithio’n fawr ar y cleifion eraill hefyd. Mewn gwirionedd, dydy ein cleifion byth yn ein gadael. Maen nhw’n rhan o’n teulu arennol ni.

“Oni bai eu bod yn symud i ffwrdd, maen nhw gyda ni drwy gydol eu hoes. Mae’r berthynas sydd gennym gyda’n cleifion a’u teuluoedd yn un unigryw iawn.”

Darllenwch fwy: Meddygaeth Arennol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Eglurodd Kalli bod sgwrs a gafodd â gwraig i glaf oedd wedi marw wedi esgor ar y syniad i ddathlu bywydau cleifion yma.

“Bu farw un o’n cleifion (Mike Poole) yn Lerpwl, Bob blwyddyn cynhelir gwasanaeth yno, ac aeth Carol, ei weddw, i un o’r gwasanaethau hynny. Dywedodd ei fod wedi bod yn gysur iddi, ac wedi gwneud iddi deimlo’n rhan o’r gymuned, hyd yn oed os mai dim ond am gyfnod byr.”

Mae Carol Poole wedi rhoi sêl ei bendith ar y Gwasanaeth Coffa, fydd yn cael ei chynnal ddydd Iau, 26 Tachwedd, am 5:30pm.

Bydd Côr Cymunedol Dyserth, 35 aelod i gyd, yn cymryd rhan yn y gwasanaeth – ac mae claf presennol, yr artist Jack Fetherstonhaugh, wedi cerfio ‘Coeden Bywyd’ ar gyfer y digwyddiad. Mae ei gwmni, Made Wood Love, yn rhoi’r darn i ni am ddim, a bydd y rhai sy’n bresennol yn gallu rhoi deilen gydag enw rhywun sy’n annwyl iddyn nhw, ar y goeden.

“Byddai Mike mor falch ohonoch chi i gyd” dywedodd Carol Poole, “roedd yn meddwl y byd o bob un ohonoch ac o’ch ymroddiad i bob un o’ch cleifion.

“Fel gwraig i glaf arennol sydd bellach wedi marw, rwyf yn gwybod cymaint mae gwasanaeth coffa fel hwn yn ei olygu i deuluoedd sydd, yn anffodus, wedi colli rhywun. Rhywun na fyddan nhw byth yn ei anghofio. Mae’n beth mor hyfryd a meddylgar i’w wneud.”

Dylai unrhyw un sy’n dymuno dod i’r gwasanaeth gysylltu ag ysgrifenyddion yr Adran Arennol yn Ysbyty Glan Clwyd ar: 03000 845687

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr