12 Tachwedd 2026
Mae dynes sy'n cael gofal lliniarol yn Ysbyty Gwynedd wedi diolch i staff yr ysbyty am wireddu ei breuddwyd i allu priodi.
Yn drist iawn, mae Maggie Heginbothom, sy’n 68 mlwydd oed, wedi cael diagnosis yn cadarnhau canser datblygedig terfynol ar yr afu, ac fe ddywedodd hi fod y staff 'fel teulu' ar ôl iddynt drefnu seremoni briodas hudolus iddi hi a Mark, ei phartner ers 15 mlynedd, mewn dau ddiwrnod yn unig.
Mae Maggie yn hanu o Fro Morgannwg, ac aethpwyd â hi i’r ysbyty bron i dair wythnos yn ôl ar ôl iddi ddechrau teimlo’n sâl wrth farchogaeth un o’i cheffylau. Wedi cyfres o ymchwiliadau a sganiau, cafod newyddion drwg iawn yn cadarnhau bod ganddi ganser datblygedig ar yr afu.
Pan wnaeth Mark ofyn i Maggie ei briodi wrth erchwyn ei gwely ddydd Gwener 6 Tachwedd, aeth staff yr ysbyty ati’n ddi-oed i roi cynlluniau ar waith i drefnu’r briodas, a gynhaliwyd ar Ward Tegid ddydd Llun, 9 Tachwedd.
Ar ôl i'r cofrestrydd gadarnhau y gellid cynnal y seremoni, bu’n rhaid i staff y ward drefnu’r holl ddathliadau dros y penwythnos..
Gan ddefnyddio grŵp cyfryngau cymdeithasol i staff, fe wnaeth cydweithwyr gydlynu popeth o flodau ac addurniadau i fwyd, cacennau ac adloniant, ac fe wnaeth nifer ohonynt gynorthwyo yn eu hamser eu hunain.
Yn garedig iawn, fe wnaeth Dylan Rowlands gynnig perfformio yn y seremoni fel anrheg briodas, ac fe wnaeth Allisha o Salon Gwallt Dolluxe gynnig steilio gwallt Maggie yn rhad ac am ddim.
Fe wnaeth Aled Wyn Davies a Chôr Hawkstone anfon fideo priodas arbennig hefyd, ac fe wnaeth Caplan yr Ysbyty, Wynne Roberts, ryfeddu pawb trwy berfformio caneuon ar ei gitâr.
Mae Maggie wedi treulio blynyddoedd lawer yn marchogaeth ac yn cystadlu â cheffylau yn Ysgol Farchogaeth Pen Llŷn, a chafodd hi syrpreis arbennig iawn pan ddaethpwyd â’i cheffylau annwyl, Ozzy a Quiosque, i Ysbyty Gwynedd i ymweld â hi.
Dywedodd Rheolwr Ward Tegid, Rachel Parry, fod y tîm cyfan y benderfynol o sicrhau y byddai Maggie a Mark yn cael y briodas fwyaf arbennig.
Dywedodd hi: "Ar ôl i ni gael gwybod bod y cofrestrydd ar gael, fe wnaethom ni roi bob gewyn ar waith! Bu’n rhaid i ni drefnu popeth dros y penwythnos, ond fe wnaeth pawb fynd ati’n syth ac roeddent oll yn awyddus i gyfrannu.
"Ar fore'r briodas, fe wnaethon ni weddnewid ystafell Maggie â chynfasau gwyn a goleuadau amryliw i greu lle hardd i gynnal y seremoni, a chafodd ystafell y perthnasau ei gweddnewid yn lleoliad i gynnal gwledd y briodas.
"Aeth popeth fel wats, ac fe wnaeth rhai o’n cydweithwyr hyd yn oed ddod i’r ysbyty ar eu diwrnodau rhydd i helpu i sicrhau y byddai’r briodas yn digwydd.
"Roedd yn achlysur hynod o arbennig ac emosiynol. Daeth dagrau i lygaid pawb oedd yno, ac roedd yn hyfryd iawn fod rhai o’r cleifion eraill y mae Maggie wedi cael cyfle i’w hadnabod yn ystod ei chyfnod ar y ward wedi llwyddo i fod yn rhan o’r dathliadau.
"Fe wnaeth haelioni’r bobl a gynigiodd eu doniau a'u gwasanaethau i sicrhau y byddai’r diwrnod yn un mwy cofiadwy fyth yn rhywbeth a wnaeth gyffwrdd â’n calon hefyd."
Mae Maggie yn un o gyn-wyddonwyr clinigol Iechyd Cyhoeddus Cymru, a dywedodd hi ei bod hi wrth ei bodd â’r cariad a’r caredigrwydd a brofodd hi gan bawb a wnaeth gyfrannu.
Dywedodd hi: "Ni allaf gyfleu pa mor hynod ddiolchgar ydw i i bawb a wnaeth sicrhau y gallai hyn ddigwydd. Roedd yn brofiad mor brydferth ac nid oeddwn i erioed wedi meddwl y byddai’n bosibl, yn enwedig y cyfle i gael gweld fy ngheffylau yno hefyd.
"Mae'r staff yma yn hollol anhygoel. Maent yn gweithio’n eithriadol o galed ac maent wedi amlygu cymaint o gariad ataf i ac wedi fy nhrin i yn hynod o garedig. Heb os, maent fel teulu i mi.
"Ni allaf ddiolch digon iddynt am bopeth, o’r addurniadau hyfryd i’r manylion bychain a wnaeth sicrhau bod ein priodas mor arbennig.
"Rwyf hefyd yn dymuno dweud diolch arbennig iawn i gaplan yr ysbyty, Wynne Roberts, a wnaeth helpu i drefnu popeth a sicrhau y gallai ein priodas ddigwydd. Rwy’n hynod o ddiolchgar iddo am bopeth y mae wedi’i wneud i Mark a minnau.
Dywedodd Ceri Newell, metron y ward, fod y briodas yn enghraifft wych o’r tosturi a’r ymroddiad y mae staff yn GIG yn eu hamlygu.
Dywedodd hi: "Mae nyrsio yn ymwneud â llawer iawn mwy na thrin salwch. Mae'n ymwneud â thosturi, caredigrwydd, dyngarwch a chydnabod mai’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud ar brydiau yw helpu i wireddu dymuniadau rhywun.
"Roedd yr hyn a wnaeth y tîm ei gyflawni i Maggie a Mark mewn cyfnod mor fyr yn rhywbeth hollol ryfeddol, ac rwy’n hynod o falch o bawb a wnaeth gyfrannu.
"Fe wnaeth pawb droedio’r ail filltir, gan gydweithio i greu rhywbeth arbennig dros ben i gwpl sy'n profi cyfnod mor anodd.
"Mae adegau fel hyn yn ein hatgoffa pam rydym yn gwneud ein gwaith, ac rwy’n hynod o falch o’r hyn a gyflawnwyd gan y tîm."