Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen ddogfen yn dangos effaith barhaol prosiect celfyddydau ar gleifion iechyd meddwl

21/09/2026

Cafodd ffilm ddogfen newydd, sy'n cofnodi rhaglen gelfyddydau trawsnewidiol mewn uned iechyd meddwl ddiogel, ei dangos yn TAPE Cerdd a Ffilm Cymunedol, Bae Colwyn yn ddiweddar.

Trefnwyd y dangosiad arbennig o’r ffilm gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; ac mae’n gofnod o brosiect celfyddydol tair blynedd yn Uned Diogelwch Canolig Tŷ Llywelyn, gwasanaeth seiciatrig arbenigol yng Ngogledd Cymru sy'n cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl difrifol.

Mae'r rhaglen ddogfen yn archwilio sut y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol helpu i fagu hyder, a meithrin cysylltiad, pwrpas a gobaith ymhlith pobl sy'n derbyn gofal yn yr uned ddiogel. Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, a chafodd ei ffilmio gan y sefydliad celfyddydau cymunedol, TAPE.

Fel rhan o'r prosiect, cymerodd y cleifion ran mewn dau berfformiad o ddrama o'r enw ‘Hope’, am Ernest Shackleton, a arweiniodd nifer o deithiau ymchwil i'r Antarctig - ac mae goroesiad, pwrpas a gobaith yn themâu canolog. Cyd-ysgrifennwyd y ddrama gan gleifion a staff yr uned, gyda chefnogaeth gan artistiaid proffesiynol. Cymerodd 50 o bobl ran yn y cynhyrchiad, gan gynnwys 23 o gleifion a gafodd gymorth gan y Tîm Therapi Galwedigaethol a staff y ward i arwain ar ddylunio'r set, cynhyrchu cerddoriaeth, gwisgoedd ac actio.

Dywedodd Will Williams, Pennaeth Cyflwyno Gwasanaethau a Gweithrediadau Clinigol: "Roedd y sesiynau creadigol yn hybu hunanfynegiant, gan helpu'r unigolion i gyfathrebu, myfyrio ac i gael eu gweld fel pobl yn hytrach na dim ond eu diagnosis. Mae ein staff hefyd wedi disgrifio sut mae cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi gwella eu lles eu hunain yn y gwaith, yn ogystal â'u perthnasoedd â chleifion. Rydym wedi gweld llai o ddigwyddiadau yn yr uned, llai o ddibyniaeth ar feddyginiaeth mewn rhai achosion, a throsglwyddiadau cyflymach i leoliadau diogelwch is."

“Cynigiodd y prosiect weithgaredd ystyrlon i’r unigolion. Felly, nid gweithgaredd celfyddydol yn unig oedd y prosiect; roedd yn ymyriad cost-isel, perthynol oedd yn canolbwyntio ar adferiad, o fewn lleoliad iechyd meddwl cymhleth.”

Cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol o drydedd flwyddyn y prosiect, sef yr olaf, a oedd yn canolbwyntio ar effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol y prosiect. Canfuwyd bod y prosiect wedi gwella hyder, lles, cysylltiadau cymdeithasol, cymhelliant ac ymgysylltiad cleifion.

Yn dilyn y dangosiad, cafwyd cyfle i glywed yn uniongyrchol gan y rhai a oedd yn rhan o’r prosiect drwy sesiwn holi ac ateb.

Arweiniodd Dyfed Edwards, Cadeirydd BIPBC, y drafodaeth; ar ôl y digwyddiad dywedodd: “Mae’r rhaglen Celfyddydau ym maes Iechyd a Lles wedi bod yn llwyddiant i ni fel Bwrdd Iechyd a hefyd i’n cleifion. Rwyf wedi cael y fraint o weld prosiectau sydd wedi dod â pherfformwyr, staff a chleifion ynghyd - weithiau mewn lleoliadau heriol - gan greu amgylchedd sy’n cyflawni pethau ac yn cefnogi eraill i fod ar eu gorau. Mae’r mentrau hyn yn rhoi gwerthoedd ein Bwrdd Iechyd ar waith ac yn dangos sut y gall celfyddydau a diwylliant hybu lles, meithrin cynhwysiant a chreu amgylcheddau cadarnhaol a therapiwtig lle gall cleifion a staff ffynnu gyda’i gilydd.”

Dywedodd Ceri Charles Durrant, Rheolwr Perthnasoedd Celfyddydol yn adran Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi ariannu’r rhaglen: "Mae’r rhaglen Celfyddyd a Chrebwyll wedi dangos pŵer trawsnewidiol creadigrwydd er  mwyn hybu iechyd meddwl a lles ar draws Byrddau Iechyd y GIG yng Nghymru. Drwy ddod â gwasanaethau iechyd, artistiaid a chymunedau ynghyd, mae'r rhaglen wedi helpu pobl i fagu hyder, cysylltiadau ac ymdeimlad o berthyn, gan gynnig cefnogaeth werthfawr i staff y GIG hefyd.

"Mae'r rhaglen wedi dangos beth sy'n bosibl pan fo creadigrwydd yn rhan hanfodol o leoliad gofal iechyd diogel. Mae llwyddiannau'r cyfranogwyr - sydd wedi arwain at brosiectau fel ‘Hope’ - yn dystiolaeth gref y gall cyfleoedd creadigol hybu twf personol, adferiad a newid cadarnhaol."

"Roedd yn fraint i TAPE fedru cefnogi creu'r ffilm hon”, meddai Steve Swindon, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol TAPE, “a bod y rhai a oedd yn rhan o’r ffilm yn rhan uniongyrchol o adrodd stori'r cynhyrchiad gwych hwn. Mae canlyniadau'r broses gyd-greu sydd wedi'i gwreiddio ym mhob cam, yn dangos yn glir pa mor bwysig ac effeithiol y mae mentrau o'r math hwn i bob un ohonom."