20 Tachwedd 2026
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus 14 wythnos o hyd ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Cymuned Tywyn heddiw (Dydd Llun 16 Tachwedd 2026).
Mae'r ymgynghoriad, sy'n dod i ben ddydd Llun 22 Chwefror 2027, yn ceisio barn ar ddau opsiwn – ailagor Ward Dyfi gyda 10 gwely i gleifion mewnol, neu ddatblygu hwb gofal iechyd cymunedol heb welyau cleifion mewnol.
Nid oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud ac nid oes gan y Bwrdd Iechyd opsiwn sy’n cael ei ffafrio. Anogir pobl i roi sylwadau ar un o'r opsiynau neu'r ddau opsiwn, rhannu eu profiadau a thystiolaeth, neu awgrymu dull gwahanol.
Cafodd Ward Dyfi ei chau dros dro ym mis Ebrill 2023 oherwydd heriau yn ymwneud â'r gweithlu nyrsio. Ers hynny, cyflwynwyd gwasanaethau cymunedol, ac mae gwaith wedi’i wneud i archwilio sut y gallai gwasanaethau fodloni anghenion lleol yn ddiogel ac yn gynaliadwy.
Cynhelir yr ymgynghoriad ar y ddau opsiwn hyn:
Mae'r ddogfen ymgynghori lawn a'r crynodeb yn egluro beth fyddai pob opsiwn yn ei olygu i bobl leol a'r gwasanaethau.
Dywedodd Paolo Tardivel, Cyfarwyddwr Dros Dro dros Strategaeth a Chynllunio:
“Rydym yn gwybod cymaint mae Ysbyty Cymuned Tywyn yn ei olygu i bobl leol, ac rydym yn cydnabod cryfder y teimladau ynghylch Ward Dyfi, yn ogystal â’r ansicrwydd a achoswyd oherwydd ei chau am gyfnod hir.
"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bawb sydd â diddordeb yn y gwasanaethau hyn helpu i lunio eu dyfodol. Rydym am glywed barn unigolion yn ogystal â sefydliadau neu grwpiau cymunedol, gan gynnwys y rhai efallai na chlywyd eu barn o'r blaen.
Nid oes penderfyniad wedi’i wneud ac nid oes gennym opsiwn sy’n cael ei ffafrio. Byddwn yn ystyried adborth o'r ymgynghoriad, tystiolaeth newydd a phob cynnig amgen cyn i'r Bwrdd ddod i benderfyniad.”
Mae'r dogfennau ymgynghori, gwybodaeth ategol, holiadur a manylion am sesiynau galw heibio ar gael yn bipbc.gig.cymru/tywyn. Bydd y dudalen we yn cael ei diweddaru drwy gydol yr ymgynghoriad, gan gynnwys yr adran cwestiynau a ofynnir yn aml.
Gall pobl ymateb yn unigol neu ar ran grŵp cymunedol neu sefydliad:
Croesewir syniadau amgen neu gynigion datblygedig erbyn y dyddiad cau. Nid oes templed gofynnol, er caiff cyfranwyr eu hannog i egluro eu cynnig, pwy fyddai'n elwa, ac unrhyw dystiolaeth ategol. Caiff dewisiadau amgen eu hasesu yn erbyn yr un meini prawf cyhoeddedig ag a ddefnyddiwyd ar gyfer yr opsiynau ar y rhestr fer.
Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, bydd adroddiad a baratowyd yn annibynnol yn crynhoi'r ymatebion a'r themâu a godwyd. Bydd y Bwrdd yn ystyried yr adborth hwn, ynghyd â thystiolaeth a chynigion amgen, cyn dod i unrhyw benderfyniad terfynol.
Dylid derbyn pob ymateb erbyn dydd Llun 22 Chwefror 2027.