Cyfleuster llawfeddygol cymunedol yn helpu i leihau'r aros i gleifion croen

22 Hydref 2026

Mae cleifion yn elwa ar fynediad cynt at driniaeth diolch i gyfleuster newydd ar gyfer mân lawdriniaethau yng Nghanolfan Iechyd Cei Connah.

Mae'r cyfleuster mân lawdriniaethau, a agorodd yn gynharach eleni, yn darparu capasiti ychwanegol ar gyfer cleifion dermatoleg ag angen am driniaethau fel biopsi’r croen, llawdriniaeth ar gyfer canser y croen, tynnu meinwe a grafftio. Mae disgwyl y bydd gwasanaethau llawdriniaeth blastig hefyd yn defnyddio'r cyfleuster.

Mae'r datblygiad yn rhan o gynlluniau ehangach y Bwrdd Iechyd i fynd i'r afael ag amseroedd aros a gwella mynediad at wasanaethau dermatoleg, sydd wedi wynebu galw sylweddol ar draws Gogledd Cymru yn y blynyddoedd diweddar.

Dywedodd Dr Perisamy Balasubrama, Dermatolegydd Ymgynghorol: "Ar ôl gwaith sylweddol i sicrhau bod y cyfleusterau a’r mesurau diogelwch priodol yn eu lle, rydym wedi dechrau gweld cleifion dros y misoedd diwethaf.

Mae’r triniaethau a gynhelir yma'r un fath â’r rhai a gynhelir mewn ysbyty gofal acíwt, ond gall y profiad i'r claf fod hyd yn oed yn well yma. Mae'n amgylchedd rhagorol, mae'n hawdd ei gyrraedd ac mae cyfleusterau parcio cyfleus, sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion.

Rydym eisoes yn gweld y manteision, yn enwedig drwy ein gwasanaeth teledermatoleg. Gellir cysylltu â chleifion o bell, a threfnu iddyn nhw ddod i Gei Connah yn uniongyrchol i gael eu triniaeth pan fo angen hynny. Mae'n gwella mynediad at ofal ac yn helpu'r ymdrechion i leihau amseroedd aros.

Mae'r gwasanaeth teledermatoleg yn galluogi clinigwyr i adolygu ffotograffau o friwiau croen o bell. Gellir asesu llawer o gleifion heb fod angen apwyntiad ysbyty, tra gellir cyfeirio'r rhai y bydd angen triniaeth arnynt yn uniongyrchol.

Un claf sy'n elwa ar y gwasanaeth yw Susan Sullivan, 69 oed, o Wrecsam. Aeth i'r cyfleuster i gael biopsi ar ôl i arbenigwyr adolygu ffotograffau a dynnwyd gan y Gwasanaeth Ffotograffiaeth Feddygol.

Dywedodd Susan: “Rydw i wedi cael triniaeth mewn safleoedd ysbytai acíwt o'r blaen, ond roedd hi'n llawer haws i mi ddod i Gei Connah. Doedd dim trafferth parcio, ac mae’n hawdd cyrraedd yma ar y trên hefyd.

“Roedd pawb yn gyfeillgar iawn ac roedd popeth yn rhedeg yn esmwyth. Mae awyrgylch tawel iawn yma. Fel cyn nyrs, gallaf weld pa mor wych yw'r gwasanaeth hwn. Mae'r tîm yn arbennig ac mae'n wasanaeth mor bwysig i gymunedau yng Ngogledd Cymru.”

Er mai cleifion o ardaloedd dwyreiniol Gogledd Cymru yn bennaf sy’n cael eu trin ar hyn o bryd, disgwylir i'r cyfleuster chwarae rhan allweddol wrth ehangu mynediad at driniaethau dermatoleg a llawfeddygaeth blastig i gleifion ledled Gogledd Cymru.

Dywedodd Sarah Murray, Rheolwr Cyffredinol y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymuned Iechyd Integredig y Dwyrain, fod y cyfleuster eisoes yn amlygu manteision darparu mwy o ofal mewn safleoedd cymunedol.

Dywedodd: “Mae'r cyfleuster hwn, sy'n gallu cynnal hyd at 10 sesiwn o fân lawdriniaethau bob wythnos, yn darparu capasiti llawfeddygol ychwanegol mewn lleoliad cymunedol modern ac yn ein helpu i wella mynediad cleifion at wasanaethau.

“Drwy greu capasiti ychwanegol yng Nghei Connah, gallwn gefnogi'r ymdrechion i leihau amseroedd aros, gwella profiad cleifion a sicrhau bod mwy o gleifion yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt cyn gynted â phosibl.

“Wrth i'r galw am wasanaethau dermatoleg a chanser y croen barhau i dyfu, bydd cyfleusterau fel hyn yn chwarae rhan gynyddol bwysig er mwyn sicrhau y gallwn ddiwallu anghenion gofal iechyd ar draws y rhanbarth yn y dyfodol.”