Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi cwblhau’r gwaith o roi ei system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) ar waith ar draws gwasanaethau ysbyty yng Ngogledd Cymru yn llwyddiannus. Daeth y rhaglen i ben yn swyddogol ar 28 Medi 2026, gan nodi cwblhau menter o drawsnewid digidol mawr i'r Bwrdd Iechyd, a hynny’n hynod lwyddiannus.
Roedd y rhaglen ePMA yn rhan o Raglen Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol Llywodraeth Cymru ac fe'i hariannwyd fel blaenoriaeth genedlaethol i foderneiddio'r broses o reoli meddyginiaethau ar draws GIG Cymru. Cyflawnwyd y gwaith o ddarparu'r system ePMA ar gyfer gofal eilaidd drwy gydweithio agos rhwng BIPBC, Better Meds ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). Dechreuodd y rhaglen yn 2024 yn dilyn cyfnod o 12 mis lle sicrhawyd trefniadau caffael, cynllunio ac chyllid.
Mae gweithredu ePMA wedi disodli prosesau rhagnodi ar bapur gyda system electronig gynhwysfawr, gan ddarparu gwybodaeth am feddyginiaethau sy'n fwy hygyrch, cywir ac amserol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae hyn yn galluogi gofal mwy effeithlon, cyson a chydgysylltiedig i gleifion sy'n derbyn triniaeth ar draws Gogledd Cymru.
Mae cyflwyno ePMA yn llwyddiannus wedi sefydlu BIPBC fel arweinydd cenedlaethol wrth reoli meddyginiaethau digidol. Yn ystod y rhaglen, BIPBC oedd y Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i weithredu ePMA yn llwyddiannus ar draws bob ardal cleifion mewnol, gan sicrhau bod cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty yn gallu elwa ar system fodern electronig ar gyfer rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau.
Yn ogystal, BIPBC yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i weithredu a defnyddio'r Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR) cenedlaethol yn llwyddiannus o fewn ePMA. Mae'r arloesedd hwn yn galluogi trosglwyddo gwybodaeth am feddyginiaethau cleifion mewnol yn ddigidol i gyfathrebiadau rhyddhau electronig a anfonir at Feddygon Teulu. O ganlyniad, mae hyn yn gwella llif y wybodaeth rhwng ysbytai a gwasanaethau gofal sylfaenol, ac ar yr un pryd mae’n cefnogi parhad gofal pan fydd cleifion yn gadael yr ysbyty.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i adeiladu ar y llwyddiannau hyn. Bydd system uwchraddio a gynllunir ar gyfer tymor yr hydref eleni yn cyflwyno swyddogaethau newydd a fydd yn galluogi mynediad uniongyrchol at gofnodion meddyginiaethau’r meddyg teulu o fewn ePMA ar ddechrau cyfnod cleifion yn yr ysbyty. Bydd hyn y rhoi’r wybodaeth gywir ar yr amser cywir i glinigwyr. Yn ogystal, bydd yn hwyluso gyda’r gwaith o wneud penderfyniadau clinigol mwy gwybodus, yn lleihau'r ymdrech weinyddol sy'n gysylltiedig â chasglu hanesion ynghylch meddyginiaeth ac yn cryfhau'r llwybr meddyginiaethau digidol.
Er bod y gwaith o weithredu’r rhaglen bellach wedi'i chwblhau'n llwyddiannus, bydd y gwaith o wneud y mwyaf o fanteision ePMA yn parhau. Fel system electronig, mae ePMA yn darparu gwybodaeth a mewnwelediadau gwerthfawr a all helpu i lywio gwelliannau mewn gwasanaethau, cefnogi optimeiddio meddyginiaethau a chryfhau llywodraethu clinigol ar draws y Bwrdd Iechyd. Mae'r gallu i ddadansoddi data rhagnodi a meddyginiaethau yn ddiogel yn creu cyfleoedd ar gyfer gwelliant parhaus, gan helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf yn fwy effeithiol, yn ddiogel ac yn effeithlon. Trwy gydweithio parhaus gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, partneriaid cenedlaethol a chyflenwyr systemau, bydd BIPBC yn parhau i wella a datblygu ePMA, gan sicrhau bod cleifion ar draws Gogledd Cymru yn elwa ar wasanaethau gofal iechyd modern, arloesol a digidol am flynyddoedd lawer i ddod.
“Mae gweithredu ePMA yn llwyddiannus yn gamp aruthrol i BIPBC ac i ofal iechyd ar draws Gogledd Cymru. Mae'n adlewyrchu blynyddoedd o gydweithio rhwng timau clinigol, gwasanaethau gweithredol, cydweithwyr digidol a TGCh, ein partneriaid cenedlaethol a'n cyflenwyr. Er ein bod yn falch o fod wedi cyrraedd y garreg filltir hon, mae ein ffocws bellach yn troi at sut rydym yn defnyddio ePMA i wella ansawdd, diogelwch cleifion a chanlyniadau cleifion. Efallai fod y rhaglen wedi dod i ben, ond mae’r cyfleoedd sydd wedi’u creu ar gyfer y dyfodol ond yn megis dechrau.”
Lois Lloyd Uwch Berchennog Cyfrifol a Phrif Fferyllydd