21.10.2026
Un o'r pethau sy'n achosi straen pan fydd rhywun yn dioddef o gyflwr heb ddiagnosis yw’r ‘peidio â gwybod’ beth sy'n bod. Dyna pam mae gwaith tîm ymroddedig yn cael ei ganmol gan ddwy fenyw sydd wedi defnyddio'r Clinig Diagnosis Cyflym.
Mae'r clinig hanner diwrnod yn archwilio cleifion sydd yn dod at adrannau gofal sylfaenol â symptomau amhenodol pan mae eu meddyg teulu yn amau bod risg o ganser. Bydd y rhan fwyaf o gleifion sy'n ymweld â'r clinigau hyn ar draws ein tri safle yn cael sgan CT ar y thoracs, yr abdomen a'r pelfis. Yn Ysbyty Glan Clwyd, mae'r gwddf hefyd yn cael ei sganio.
Mae gan tua 50% o gleifion sy'n cael diagnosis o ganser y symptomau amhenodol hyn. Gall y symptomau gynnwys colli pwysau, colli awydd am fwyd, poen amhenodol yn yr abdomen, a blinder. Dim ond tua saith y cant o'r rhai sy'n cael eu cyfeirio at y clinig sy'n cael diagnosis o ganser. Mae'r straen o beidio â gwybod beth sy'n bod yr un fath i bawb.
“Mae cael diagnosis o ganser yn gynnar yn hanfodol, ond mae'r clinig yn cynnig llawer mwy na hynny.” meddai Nicky Grayston, nyrs glinigol arbenigol yn y Clinig Diagnosis Cyflym “Mae ein cleifion yn dweud wrthym fod y gwasanaeth cyflym yn cynnig tawelwch meddwl ac yn lleihau straen, pwysau, trallod a phryder parhaus pan fyddan nhw yn cael diagnosis o ganser. Os nad canser sydd arnyn nhw, mae'r tawelwch meddwl hwnnw hefyd yn cael ei werthfawrogi'n fawr.”
Mae Fay Corfe, o Lanelwy, yn canmol y gwasanaeth yn fawr iawn. Cafodd ei chyfeirio at y clinig ar ôl colli pwysau heb reswm, a hynny yn dilyn hanes hir o ganser y chwarren thyroid a chyflyrau iechyd eraill.
“Roedd rhywfaint o baratoi ymlaen llaw gan fy mod yn cael sgan CT,” meddai. “Felly, aethom i'r ysbyty a chawsom ein croesawu gan Nikki Grayston (nyrs glinigol arbenigol yn y clinig) bron ar unwaith. Cefais fy sgan CT ar yr un diwrnod.”
Aeth gŵr Fay, Michael, gyda hi a dywedodd eu bod wedi mynd â phicnic gyda nhw i’w fwyta yn y car tra oedden nhw’n aros. Roedden nhw wedi cael gwybod i ddod â rhywbeth bach i fwyta gyda nhw gan y bydden nhw yno am beth amser.
“Wedyn, aethom yn ôl i mewn ac es i weld y meddyg i gael archwiliad trylwyr ac eglurhad manwl o’r hyn a welwyd ar y sgan CT. O’r dechrau i’r diwedd, roedd popeth yn wirioneddol wych, mae’n rhaid dweud. Roedd pawb mor gwrtais, mor barod i rannu gwybodaeth, ac yn broffesiynol iawn.”
Er nad oedd y canlyniadau wedi bod yn bendant, dywedodd Fay eu bod wedi dangos nad oedd unrhyw ganserau eraill, a threfnwyd iddi gael colonosgopi, er mwyn gwneud yn siŵr. Derbyniodd neges gan ymgynghorydd yn fuan ar ôl ei hymweliad â’r clinig.
Darllenwch fwy: O Ogledd Cymru i Fur Mawr Tsieina: Taith Kelly i gefnogi ymwybyddiaeth o ganser y fron - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
“Roeddwn i’n teimlo’n bryderus wrth fynd yno,” meddai. “Cododd fy mhwysedd gwaed yn sydyn, a doeddwn i ddim yn cael gadael nes iddo ostwng. Mae rhyw fath o ofid yn codi pan nad ydych chi’n gwybod yn union beth sy’n digwydd, ac mae hynny’n creu pryderon. Roedd yn rhoi tawelwch meddwl i mi, yn yr ystyr fy mod i’n gwybod beth oedd llawer o’r pethau oedd yn digwydd. Roedd yn gysur gwybod nad oedd dim byd arall yn mynd ymlaen.”
Claf arall sy’n llawn canmoliaeth am y gwasanaeth yw June Howatson, o Ddinbych. Roedd hi wedi bod yn byw gyda chyflwr o’r enw ‘Oesoffagws Barrett’. Mae hwn yn gyflwr sy’n achosi annormaleddau yn y celloedd sy’n leinio’r oesoffagws (y bibell fwyd), ac mewn canran fach o achosion, gall ddatblygu’n ganser yr oesoffagws.
Yn dilyn adolygiad o’i meddyginiaethau gyda’i meddyg teulu, ym mis Tachwedd y llynedd, cymerwyd sampl gwaed i’w brofi. Gofynnwyd iddi gael rhagor o brofion gwaed, ac roedd y canlyniadau wedi peri pryder i’w meddyg teulu. Er nad oedd ganddi unrhyw symptomau amlwg, cyfeiriodd y meddyg teulu June at y Clinig Diagnosis Cyflym ar 7 Rhagfyr; ddeuddydd yn ddiweddarach, cafodd wahoddiad i’r clinig i gael pelydr-X ar y frest.
Cafodd June gyfres o brofion, ac yna cafodd wahoddiad i gael sgan CT ym mis Ionawr. Tra oedd hi’n siarad â meddyg ar yr un diwrnod, daeth y canlyniadau i law – ac roedd popeth yn iawn.
Roedd yn rhyddhad i June, a ddywedodd: “Roeddwn i wedi synnu’n fawr. Digwyddodd mor gyflym. Roedd yn wych. Ac roedd y nyrsys yn anhygoel.
“Roedd gan hyd yn oed y derbynnydd, a oedd yn gorffen ei sifft nos, ddigon o amser i siarad â ni. Roedd hi’n hyfryd iawn. Rydych chi’n poeni oherwydd yr holl ganlyniadau a’r hyn a all ddod, ond rwy’n credu fy mod i wedi bod yn un o’r rhai lwcus – hyd yma.”
Bydd June yn cael rhagor o brofion, ond o leiaf mae ganddi’r rhyddhad o wybod nad oes ganddi ddiagnosis o ganser.
Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr