20 Tachwedd 2026
Mae’r gwaith o adeiladu helipad dwbl newydd gwerth £2.3 miliwn yn Ysbyty Gwynedd bellach wedi’i gwblhau, gan nodi carreg filltir sylweddol mewn datblygiad pwysig a fydd yn gwella gofal brys i gleifion ledled Gogledd Cymru.
Agorodd y cyfleuster ddydd Llun, 16 Tachwedd. Ariannwyd y prosiect drwy gyfraniad o £1.5 miliwn gan HELP Appeal, â Llywodraeth Cymru sydd wedi cyfrannu dros £800,000, yr unig elusen yn y DU sy'n ymroddedig i ariannu helipadiau mewn ysbytai, gyda Llywodraeth Cymru yn darparu gweddill y cyllid.
Mae’r datblygiad hwn yn disodli ac yn uwchraddio helipad blaenorol yr ysbyty, a adeiladwyd ym 1997. Gan fod rheoliadau hedfan a gofynion gweithredol wedi esblygu dros amser, mae'r cyfleuster newydd wedi'i ddylunio i fodloni safonau’r Awdurdod Hedfan Sifil nawr ac yn y dyfodol, tra hefyd yn cefnogi gwaith hanfodol yr ambiwlansys awyr a’r hofrenyddion chwilio ac achub.
Roedd Paul Andrew, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer Cymuned Iechyd Integredig Ardal y Gorllewin ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn falch o weld y gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau, a diolchodd i'r rhai sydd wedi cefnogi'r datblygiad.
Dywedodd: “Mae’n newyddion gwych bod y gwaith o adeiladu ein helipad dwbl newydd bellach wedi’i gwblhau.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i elusen HELP Appeal am ei chymorth hael a’i hymroddiad i wella gofal brys, yn ogystal ag i Lywodraeth Cymru am ei chyfraniad ariannol. Heb eu cymorth, ni fyddai’r prosiect hanfodol hwn wedi bod yn bosibl.
“Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a fu’n rhan o ddatblygu’r prosiect hwn. Mae’n fuddsoddiad gwych yn nyfodol gofal brys yng Ngogledd Cymru, a bydd o fudd i gleifion, ein timau clinigol a’r gwasanaethau brys am flynyddoedd lawer i ddod.”
Bydd yr helipad dwbl yn galluogi Ambiwlans Awyr Cymru a hofrenyddion Chwilio ac Achub EF i lanio ar yr un pryd, gan helpu i leihau oedi a gwella ymateb yr ysbyty i ddigwyddiadau mawr ac argyfyngau lle mae amser yn hollbwysig.
Ychwanegodd Dr Pete Williams, Arweinydd Clinigol yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd: “Rydym yn gweld nifer cynyddol o gleifion yn cyrraedd, neu’n cael eu trosglwyddo, mewn hofrenyddion, ac mae achlysuron lle mae angen i fwy nag un hofrennydd gael mynediad at yr ysbyty ar yr un pryd. Er bod sefyllfaoedd o'r fath yn gymharol anghyffredin, gallant arwain at oedi ar adegau pan fo pob munud yn cyfrif.
“Bydd cael dau helipad gwbl weithredol yn dileu'r risg y bydd rhaid i un hofrennydd aros i un arall adael, gan wella effeithlonrwydd a gan ddarparu gwydnwch yn ystod cyfnodau o alw uchel neu ddigwyddiadau mawr.
“Yn y pen draw, nod y datblygiad hwn yw gwella gofal cleifion a sicrhau y gall pobl gael mynediad at y driniaeth gywir mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl.
“Er na fydd y rhan fwyaf o bobl angen defnyddio’r cyfleusterau hyn, maent yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i'r rhai sy'n wynebu'r argyfyngau meddygol mwyaf difrifol. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig a fydd yn gwella gofal brys ledled Gogledd Cymru am flynyddoedd lawer i ddod.”
Ychwanegodd Robert Bertram, Prif Weithredwr elusen HELP Appeal: “Dyma garreg filltir bwysig i Elusen HELP Appeal. Nid yn unig yr ydym yn helpu i ariannu’r helipad dwbl cyntaf mewn ysbyty ym Mhrydain, ond dyma hefyd ein prosiect cyntaf yng Nghymru. Mae hyn yn dod â chyfanswm yr helipadiau yr ydym wedi’u hariannu i XX, gan helpu ambiwlansys awyr i gludo cleifion sy’n ddifrifol wael at y gofal arbenigol sydd ei angen arnynt yn gynt.
“Diolch yn fawr iawn i’n cefnogwyr. Mae eu haelioni wedi gwneud y prosiect hwn yn bosibl, a bydd yn helpu cleifion am flynyddoedd lawer i ddod.”
Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae cwblhau’r helipad dwbl newydd yn garreg filltir bwysig i’r Bwrdd Iechyd ac yn gam mawr ymlaen wrth wella gofal brys i bobl ledled Gogledd Cymru.
“Hoffwn ddiolch yn fawr i elusen HELP Appeal a Llywodraeth Cymru. Heb eu cymorth, ni fyddai'r prosiect hwn wedi bod yn bosibl.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Wyliwr y Glannau John Craig: "Rydym yn croesawu agor y safle glanio hofrennydd newydd yn Ysbyty Gwynedd. Mae'r safle newydd hwn yn gwella mynediad i hofrenyddion chwilio ac achub ac yn tynnu sylw at y gwaith agos rhwng sefydliadau gwasanaethau brys ar gyfer cymunedau ledled Gogledd Cymru."
Dywedodd Charlotte Phillips, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Hedfan Ambiwlans Awyr Cymru: "Fel elusen, ein ffocws yw darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n poblogaeth, felly mae unrhyw ddatblygiad a all helpu i wella gofal cleifion yn cael ei groesawu'n llwyr.
"Rydym yn diolch i HELP Appeal a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i'r helipad dwbl newydd yn Ysbyty Gwynedd, yn ogystal â phawb yn yr ysbyty a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi helpu i wneud y datblygiad hwn yn bosibl."
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal: "Mae'r helipad dwbl newydd yn Ysbyty Gwynedd - y cyntaf o'i fath ym Mhrydain - bellach ar agor a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau i gleifion sy'n ddifrifol wael ac wedi'u hanafu.
"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio ar y prosiect hanfodol hwn ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd a HELP Appeal."