Penllanw'r daith i gydweithiwr a helpodd i sefydlu gwasanaethau'r Robiniaid gan ddod â gyrfa o 47 mlynedd yn y GIG i ben

11.11.2026

Mae cyd-sefydlydd ein cynllun i wirfoddolwyr, y Robiniaid, wedi ymddeol o'r Bwrdd Iechyd wedi gyrfa o 47 mlynedd a ddechreuodd yn gyflawniadau bychain ac a arweiniodd at ddatblygu gwasanaethau.

Dechreuodd Sue Clark ei gyrfa yn y GIG fel swyddog clercyddol yn yr adran belydr-X yn Ysbyty HM Stanley, Llanelwy, ym mis Medi 1979. Dyma ddechrau gyrfa a fyddai’n dod â chysur i filoedd o gleifion. Yn wir, roedd ganddi rôl allweddol mewn gwasanaethau rheoli poen, ac fe helpodd i sefydlu gwasanaeth hanfodol yn ystod pandemig COVID-19.

Un o'i phrif gyflawniadau oedd helpu Kay Hemsley, cyn-Reolwr Gwasanaethau Corfforaethol i sefydlu gwasanaeth gwirfoddolwyr y Robiniaid yn Ysbyty Glan Clwyd yn 2004, fel gwasanaeth cyfeillio i gleifion yn ein gofal.

Yn 2011, cafodd y gwasanaeth hwn ei ymestyn i Ysbyty Gwynedd ac i Ysbyty Maelor Wrecsam, cyn ei gyflwyno mewn ysbytai cymunedol yng Ngogledd Cymru. Ehangodd rôl y Robiniaid i gynnwys cynorthwyo staff gyda thasgau anghlinigol, yn ogystal â chynnig gwasanaethau cyfeirio i ymwelwyr.

Darllenwch ragor:  Gwirfoddolwr Robin - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dywedodd Sue: “Rwy’n gweld rhai o’r Robiniaid yr oeddem yn arfer delio â nhw hyd heddiw, ac mae hynny’n falm i’r enaid. Roedd yn rhywbeth arbennig iawn i fod yn rhan ohono.

“Kay a finnau a sefydlodd hynny. Ein dwy wnaeth yr holl hysbysebion, y cyfweliadau, a threfnu pwy fyddai’n mynd i ble. Mae’r gwasanaeth wedi tyfu’n enfawr bellach.”

Trwy gydol ei gyrfa, un o gryfderau mwyaf Sue oedd ei hagwedd ‘ydw, rwy’n gallu ei wneud’. Ac eto, yn ystod pandemig COVID-19, cafodd y pendantrwydd hwnnw ei brofi i’r eithaf wrth iddi egluro:

“Ym mis Mawrth 2020, gofynnwyd i mi sefydlu gwasanaeth i wirio a oedd masgiau’n ffitio,” meddai Sue. “Roedd hyn er mwyn sicrhau bod masgiau wyneb yn diogelu staff yn iawn yn ystod y pandemig. Pan gyrhaeddais, roedd merch mewn ystafell ar ei phen ei hun. Roedd ciw hir iawn o staff yn ymestyn i lawr y coridor yn aros i gael eu profi.”

Llwyddodd Sue i gael lleoedd ar gyfer gorsafoedd profi, trefnu hyfforddiant i bobl fel profwyr i wirio a oedd masgiau’n ffitio, datblygodd wasanaeth oedd ar gael fwy neu lai 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ar gyfer staff dydd a nos yn Ysbyty Glan Clwyd.

Darllenwch ragor: Cyfleuster llawfeddygol cymunedol yn helpu i leihau'r aros i gleifion croen - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

“Roedd hi’n anodd dros ben,” datgelodd. “Roedd hi’n wych gallu gwneud rhywbeth i helpu a chefnogi’r staff, ond cafwyd cyfnodau a oedd yn peri gofid.”

“Roedd y galw gan staff am brofion yn aruthrol, ac roedd yn rhaid i ni symud i system a oedd yn seiliedig ar apwyntiadau er mwyn ymdopi â'r galw. Roedd pobl yn pryderu, ac roedd hynny’n ddealladwy. Roedd yn gyfnod pryderus i bawb.

“Roedd yn rhaid i ni flaenoriaethu’r staff a oedd yn gofalu’n uniongyrchol am gleifion, ond gwnaethom yn siŵr fod pawb yn gwybod y byddem yn cyrraedd atynt cyn gynted ag y bo modd.”

Cyn COVID-19, arweiniodd Sue ar y gwaith o ddatblygu’r Gwasanaeth Rheoli Poen yn Ardal y Canol, gan gynyddu o chwech aelodau o staff i ddeuddeg chwech.

“Dim ond un clinig oedd ganddyn nhw yn y bore ac un yn y prynhawn,” meddai. “Gwnaethom ddarganfod bod hen Ward 9 yn Ysbyty Abergele wedi’i chau’n gyfan gwbl. Felly, fe ofynnom am ychydig o ystafelloedd yno. Fe wnaethon nhw roi rhan ohoni i ni, ond yn y diwedd, fe ddefnyddiom yn ward gyfan.

“Roeddem fel Y Borrowers, yn paratoi ac yn cyfarparu popeth er mwyn gallu cynnal clinigau cwbl weithredol pum diwrnod yr wythnos. Yna, cyrhaeddodd COVID…”

Mae Elaine Hodgson, Cyfarwyddwr Cyswllt Gofal Canolraddol ar gyfer y Gymuned Iechyd Integredig, Ardal y Canol yn gyn-gydweithiwr i Sue. Roedd hi’n ei chanmol i’r cymylau am ei gwasanaeth a’i hymroddiad.

Dywedodd: “Mae llawer o staff yn Ysbyty Glan Clwyd ac yn ein Cymuned Iechyd Integredig Ardal y Canol ehangach, naill ai wedi gweithio gyda Sue neu’n ei hadnabod fel cydweithiwr a ffrind. Roedd ei dull o weithio yn y meysydd niferus yr oedd hi’n ymwneud â nhw yn broffesiynol ac yn canolbwyntio ar y claf bob amser. Roedd ei harddull wrth arwain yn llawn tosturi, ac roedd ei synnwyr digrifwch yn heintus.

“Hoffwn ddiolch iddi am ei chefnogaeth gyson, ei harweiniad a’i hymroddiad. Mae ei gwaith caled, ei phroffesiynoldeb a’i hymrwymiad yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Mae hi wedi bod yn fraint cael gweithio ochr yn ochr â rhywun sydd wedi bod yn gaffaeliad mawr i’r gwasanaeth ac sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth er gwell.”

O ran Sue, crynhodd uchafbwyntiau ei gyrfa yn syml iawn. Dywedodd: “Ennill y swydd yn y lle cyntaf. Gweithio i’r GIG, dyna oedd fy mreuddwyd. Roeddwn yn teimlo fy mod yn helpu llawer o bobl – yn helpu cleifion ac yn helpu staff.”

Rydym wedi lansio ein sianel WhatsApp swyddogol i rannu manylion, newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth bwysig am y Bwrdd Iechyd yn eich ardal leol. Dilynwch ni yma: Dilynwch ni ar WhatsApp - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr