Anrhydeddu nyrs codi arian ysbrydoledig yng ngwobrau Pride of Britain

04.11.2026

Mae aelod o staff ymroddedig wedi cael ei chydnabod am ei gwaith elusennol rhagorol ar ôl cyrraedd y rhestr fer am Wobr Codwr Arian y Flwyddyn yng ngwobrau Pride of Britain eleni am yr elusen canser a sefydlodd er cof am ei mab.

Gwnaeth Mandy Giddins, Nyrs Arbenigol ym maes Wroleg yn ardal y Dwyrain, sefydlu Giddo's Gift yn dilyn colled dorcalonnus ei mab, Jordan Giddins, a fu farw o ganser pan oedd yn 18 oed yn 2017. Cafodd yr elusen ei chreu er cof amdano ac mae'n parhau â'i waddol trwy roi cymorth i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc sy'n byw gyda chanser ar draws Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.

Dywedodd Mandy: "Roedd cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Codwr Arian y Flwyddyn ITV Cymru a mynd i wobrau Pride of Britain gyda fy merch yn brofiad gwefreiddiol ac yn un rwy'n falch ohono.

"Er na enillais y brif wobr, roedd cael cydnabyddiaeth ochr yn ochr â chynifer o bobl ysbrydoledig yn anrhydedd mawr, a bu'r noson yn un i'w chofio yn dathlu gweithredoedd eithriadol o garedigrwydd, dewrder ac ymroddiad. Ni allwn i helpu meddwl sut y byddai Jordan wedi bod wrth ei fodd pe bai wedi bod yno, yn mwynhau'r awyrgylch, yn cwrdd â'r holl bobl enwog, yn enwedig y chwaraewyr pêl-droed, a pha mor falch y byddai wedi bod i weld popeth rydym ni wedi'i gyflawni trwy Giddo's Gift er cof amdano.

"Nid oes dim yn gallu lleddfu'r boen dorcalonnus a ddaw yn sgil colli plentyn ond mae gwybod bod gwaddol Jordan yn helpu cannoedd o blant a phobl ifanc sydd wedi'u heffeithio gan ganser, a bod ein gwaith yn cael ei gydnabod yn dod ag ychydig o gysur ac mae'n fy ngwneud i'n hynod falch!"

Ers ei lansio, mae Giddo's Gift wedi codi mwy na £750,000 ac mae'n darparu rhoddion, grantiau, gwyliau a dymuniadau ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 24 oed sy'n wynebu diagnosis canser, yn ogystal â chymorth ymarferol ac emosiynol ar gyfer eu teuluoedd.

Dywedodd y Cadeirydd, Dyfed Edwards: "Ar ran y Bwrdd, hoffwn longyfarch Mandy yn wresog iawn am yr holl waith y mae hi wedi'i wneud. Rydym yn hynod falch bod Mandy yn aelod o deulu ein Bwrdd Iechyd ac mae'n bleser gennym weld bod ei chyfraniad eithriadol wedi cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol, sy'n dyst i'w hymroddiad diwyro, ei thrugaredd a'i hagwedd benderfynol."

Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr yn cydnabod ymrwymiad diflino Mandy i godi arian ac ymwybyddiaeth er mwyn helpu pobl ifanc a'u teuluoedd yn ystod rhai o'r adegau mwyaf heriol yn eu bywydau. Yn 2024, cafodd Mandy ei chydnabod hefyd ar restr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd hefyd am ei gwaith yn cefnogi pobl ifanc sydd â chanser.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ac i gefnogi Giddos Gift, ewch i'r wefan yma.