08.10.26
I nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron yr Hydref hwn, mae Kelly Duff, Uwch Swyddog Llywodraethu Gwybodaeth yn helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd diagnosis cynnar ar ôl cymryd rhan mewn her arbennig i gefnogi ymwybyddiaeth o ganser y fron.
Yn ddiweddar, ymunodd Kelly â CoppaTrek!, her godi arian naw diwrnod o hyd a drefnwyd gan CoppaFeel!, elusen sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc ac sy’n codi ymwybyddiaeth o ganser y fron. Mae’r elusen yn gweithio i sicrhau bod canser y fron ymhlith pobl ifanc yn cael diagnosis cynnar a chywir, drwy annog pobl i fod yn gyfarwydd â’u cyrff, gwybod beth yw’r arwyddion a’r symptomau o ganser y fron ac i geisio cyngor meddygol os ydynt yn sylwi ar unrhyw newidiadau.
Ochr yn ochr â hyfforddi a chodi arian, daeth codi ymwybyddiaeth o ganser y fron a rhannu neges CoppaFeel! yn rhan amlwg o daith Kelly. Mae diagnosis cynnar yn parhau i chwarae rhan ganolog o waith yr elusen, gan fod triniaeth yn aml yn fwy effeithiol yn y dyddiau cynnar. Yn ogystal, mae modd gwella’r canlyniadau pan gaiff canser y fron ei ganfod yn gynharach.
Yn ystod y profiad, cerddodd y cyfranogwyr ar hyd sawl rhan o Fur Mawr Tsieina, gan gynnwys Badaling, Huanghuacheng, Gubeikou, Jinshanling a Mutianyu. Wrth wynebu dringfeydd serth, grisiau bregus a thiroedd heriol, gwthiodd y grŵp eu hunain i gwblhau'r daith, a ddaeth i ben wrth y "Grisiau Nefol" enwog.
Er gwaetha’r amodau llethol, cafodd y cyfranogwyr eu gwobrwyo â golygfeydd trawiadol a'r profiad unigryw o gerdded ar hyd un o Saith Rhyfeddod Newydd y Byd.
Gyda’i gilydd, llwyddodd y grŵp i godi swm anhygoel o £782,944 i CoppaFeel!, gyda £4,820 wedi'i godi trwy ymdrechion codi arian Kelly yn unig.
Wrth edrych yn ôl ar y profiad, dywedodd Kelly; “Roedd yn un o'r profiadau mwyaf gwerthfawr rwyf erioed wedi bod yn rhan ohono, ac un wnaiff aros yn fyw yn y cof am byth. Wrth gwrs, roedd cael y cyfle i gerdded ar hyd un o ryfeddodau'r byd yn anhygoel, ond yr hyn a wnaeth y profiad yn wirioneddol arbennig oedd y bobl y gwnes i eu cyfarfod ar hyd y daith.
“Gwnaeth y cydgerdded ar ddringfeydd serth, y coesau blinedig, y golygfeydd bythgofiadwy, y chwerthin diben draw a’r ymdeimlad rhyfeddol o gyflawniad gyda grŵp mor ysbrydoledig o bobl y profiad yn llawer mwy na thaith gerdded.
“Cyrhaeddais adref gydag atgofion anhygoel, cyfeillgarwch newydd ac ymdeimlad mawr o falchder yn yr hyn a gyflawnwyd gyda'n gilydd. Mae codi arian ar gyfer elusen mor wych a helpu i ledaenu neges mor bwysig drwy gydol y flwyddyn yn rhywbeth rwy'n hynod falch ohono.”
Mae’r her wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser y fron, gan annog pobl i ddod yn fwy cyfarwydd â'r hyn sy'n normal i'w cyrff, i adnabod yr arwyddion a’r symptomau posibl, ac i ofyn am gyngor meddygol os byddant yn sylwi ar unrhyw newidiadau.
Mae Kelly yn gobeithio y bydd ei hymdrechion codi arian a’r sgyrsiau a gafwyd yn ystod ei thaith yn annog mwy o bobl i ddod i wybod beth sy’n normal i’w cyrff ac i geisio cyngor os byddant yn sylwi ar unrhyw newidiadau.
Am ragor o wybodaeth ynghylch archwilio eich bronnau, cymerwch olwg ar wefan CoppaFeel!.