BIPBC yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth yn Nigwyddiad Rhwydwaith Cyngor Ieuenctid Gogledd Cymru
Ar 26 Hydref, 2026, bu Arweinwyr Profiad Cleifion ar gyfer Gwasanaethau Plant yn gweithio gyda thri deg o gynghorau ieuenctid o bob rhan o Ogledd Cymru i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth a dylanwadu. Cymerodd y bobl ifanc ran mewn hyfforddiant arweinyddiaeth arbenigol a ddatblygwyd gan Christy Hoskings, Jane Berry a Caroline Lidford (Arweinwyr Profiad Cleifion ar gyfer Plant gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr).
Cyflwynodd yr hyfforddiant Naratif Cyhoeddus i bobl ifanc, sef dull arweinyddiaeth a threfnu a gafodd ei ddatblygu’n wreiddiol ym Mhrifysgol Harvard. Gall naratif cyhoeddus gefnogi unigolion i ddefnyddio eu profiadau a'u gwerthoedd eu hunain i adrodd straeon diddorol sy'n ysbrydoli eraill, yn meithrin cysylltiadau, ac yn annog gweithredu ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithgareddau a thrafodaethau rhyngweithiol a luniwyd i fynd i’r afael â’r hyn sy'n tanio eu brwdfrydedd, ac i nodi a ydynt yn awyddus i weld newidiadau neu i godi ymwybyddiaeth yn eu cymunedau eu hunain a thu hwnt.
Erbyn diwedd y diwrnod, roedd y plant a’r bobl ifanc wedi dechrau datblygu eu straeon a’u naratifau cyhoeddus eu hunain mewn ffyrdd amrywiol, megis gwaith ysgrifenedig, byrddau stori a chelf, gan eu galluogi i ddewis y fformat a oedd yn gweddu eu cryfderau a’u diddordebau orau.
Dywedodd Christy Hoskings, “Mae gweithio gyda'r genhedlaeth hon o bobl ifanc yn rhoi gymaint o obaith i mi, ac mae'n fraint arbennig. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r cynghorau a'r gwasanaethau ieuenctid gwych am eu cefnogaeth, ac am weithio gyda ni i wneud hyn yn bosibl”.
Esboniodd Jane Berry, “Mae gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru yn ein helpu’n fawr i ddeall a dysgu am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, er mwyn i ni allu datblygu’r gefnogaeth gywir yn ein gwasanaethau iechyd a’n cymunedau. Mae plant a phobl ifanc yn ein hysbrydoli gymaint drwy eu creadigrwydd a’u hangerdd at helpu a chefnogi eu cymuned a chenedlaethau’r dyfodol”.
Ychwanegodd Caroline Lidford “Roedd hi’n fraint cael clywed gan grŵp mor frwdfrydig a meddylgar o bobl ifanc. O’r dechrau i’r diwedd, siaradodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid yn hyderus ac yn onest, gan ddefnyddio naratif cyhoeddus i rannu eu profiadau, eu gobeithion a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Roedd eu hymrwymiad i wneud gwahaniaeth yn amlwg, ac roedd hynny’n atgyfnerthu pa mor bwysig yw gwrando ar yr hyn sydd bwysicaf iddynt, ac ymateb yn unol â hynny. Mae’r hyn sy’n bwysig i bobl ifanc yn bwysig i ni, ac mae eu mewnwelediadau yn dylanwadu ar ein gwaith.”
Yn ogystal, cyflwynodd y digwyddiad dechnegau hyfforddi ymarferol, a oedd yn helpu plant a phobl ifanc i ddysgu sut i gefnogi ac annog ei gilydd fel arweinwyr o fewn eu cynghorau ieuenctid lleol a’u cymunedau.
Amlygodd y digwyddiad ein hymrwymiad i gydweithio â chynghorau ieuenctid ledled Gogledd Cymru. Mae’n allweddol ein bod yn buddsoddi yn natblygiad arweinyddiaeth pobl ifanc, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr hyder a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ddod yn eiriolwyr effeithiol dros y materion sydd bwysicaf i’w cenhedlaeth.