13.11.2026
Mae staff yr Uned Newyddenedigol yn Ysbyty Wrecsam Maelor yn dathlu ar ôl ennill Achrediad Arian gan Bliss, prif elusen y DU ar gyfer babanod a anwyd yn gynamserol neu’n sâl.
Mae Siarter Babanod Bliss yn rhaglen gwella ansawdd sy'n cael ei chydnabod yn genedlaethol, ac sy'n asesu pa mor dda y mae unedau newyddenedigol yn cynnwys ac yn cefnogi rhieni fel partneriaid wrth ofalu am eu baban.
Dywedodd Laura Chaloner, Arweinydd Siarter Babanod yr uned: "Mae Achrediad Arian Bliss yn cydnabod ymdrechion y tîm i gyd i greu amgylchedd lle mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn ystod un o'r cyfnodau pwysicaf yn eu bywydau.
“Rydyn ni'n gwybod bod babi mewn uned newyddenedigol yn rhywbeth annisgwyl ac yn gallu bod yn brofiad llethol; felly, rydyn ni'n ymdrechu i sicrhau bod rhieni nid yn unig yn cymryd rhan yng ngofal eu babi, ond eu bod nhw’n teimlo bod rhywun yn gofalu amdanyn nhw hefyd.”
Cafodd yr uned ei chydnabod gan Bliss am nifer o fentrau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi teuluoedd yn ystod cyfnod a all fod yn heriol ac yn llawn emosiwn, gan gynnwys ei bagiau croeso, blychau taith a'r rhaglen "Beads to Cherish".
Ychwanegodd Laura: “Mae pob menter wedi’i chynllunio gyda theuluoedd mewn golwg – o gymorth ymarferol trwy ein bagiau croeso, i helpu teuluoedd i greu atgofion gwerthfawr gyda’n blychau taith a’n rhaglen ‘Beads to Cherish’. Rydyn ni’n falch iawn bod ein gwaith wedi cael ei gydnabod drwy'r achrediad hwn."
Mae bagiau croeso yn cynnwys llyfryn gyda gwybodaeth ddefnyddiol am y ward, dwy botel ddŵr a dwy gwpan teithio ar gyfer diodydd poeth, i'r ddau riant eu defnyddio wrth ochr y gwely. Cyflwynir y rhain mewn bag y gellir ei ailddefnyddio.
Darperir blychau taith i rieni i'w helpu i gasglu a chadw atgofion arbennig trwy gydol eu cyfnod yn yr uned. Mae pob blwch yn cynnwys tedi, llyfr nodiadau a beiro, llyfr bwrdd bach, lliain mwslin a phad inc.
Mae'r adnoddau'n cynnig cymorth ymarferol, ac yn helpu teuluoedd i greu atgofion parhaol o'r cyfnod y treuliodd eu babi ar yr uned. Mae'r eitemau i gyd yn cael eu hariannu trwy haelioni Cherish, sef elusen yr uned.
Cafodd rhaglen yr uned, "Beads to Cherish", ganmoliaeth hefyd. Mae'r gleiniau'n creu stori weledol o daith babi drwy'r Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU), gan helpu teuluoedd i ddathlu cerrig milltir ac i fyfyrio ar y cynnydd y mae eu babi wedi'i wneud.
Bob tro y mae babi yn cael triniaeth neu'n profi rhywbeth pwysig, mae'n derbyn glain grisial sy'n cynrychioli'r digwyddiad hwnnw. Mae gan bob glain ystyr penodol, sy'n cofnodi popeth o ymyriadau meddygol i garreg filltir arbennig, fel bwydo'r babi am y tro cyntaf neu gyswllt croen-i-groen â'i rieni.
Mae'r rhaglen, a ariennir gan Cherish, yn helpu i drawsnewid rhai o'r eiliadau mwyaf anodd y mae teuluoedd yn eu hwynebu yn gofrodd ystyrlon sy'n adrodd eu stori unigryw, ac sy'n gallu bod o gymorth i deuluoedd wrth iddynt baratoi i fynd adref o'r ysbyty.
Bydd gleiniau efydd ac arian bellach yn cael eu cynnwys hefyd, er mwyn cofnodi cyflawniad yr Uned wrth ennill gwobrau Achrediad Efydd ac Arian Bliss.