Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiadau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae’r dudalen hon yn cynnwys nifer o adroddiadau a gynhyrchwyd gan y Bwrdd Iechyd, sy’n gysylltiedig â Chydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Adroddiadau Blynyddol Cydraddoldeb

Bob blwyddyn mae’r Bwrdd Iechyd yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb. Gweler y dolenni isod:

Gwybodaeth am Gydraddoldeb yn y Gweithle ac Adroddiadau Dadansoddi

Mae casglu a defnyddio tystiolaeth wrth wraidd y Dyletswyddau Cydraddoldeb ac yn rhan o’r broses o gael mwy o gydraddoldeb. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod ei bod yn hanfodol cael darlun clir a sail dystiolaeth o sut rydym yn perfformio ar gydraddoldeb, gan fesur lle nad yw unigolion neu grwpiau, ar sail eu nodweddion gwarchodedig, yn cael triniaeth deg ar hyn o bryd.

I gael yr adroddiadau mewn ystod o fformatau ac ieithoedd gwahanol, cysylltwch â:

Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion

Ebost: BCU.PALS@wales.nhs.uk

Ffôn: 03000 851234

Gellir gwneud cais i weld pob un o’n hadroddiadau blaenorol ar gyflogaeth a thâl. Ewch yn ôl i’r brif dudalen Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i ddod o hyn i’n manylion cyswllt.

Adrodd am y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau

Cyflwyniad

Roedd Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth am y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau) 2017 yn gosod y gofynion i sefydliadau sydd â mwy na 250 o weithwyr gyfrifo a chyhoeddi eu gwybodaeth am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Pwrpas cael mwy o dryloywder wrth adrodd am hyn yw helpu sefydliadau i ddeall yn well y materion sy’n arwain at ac yn parhau’r bylchau yng nghyflog cyfartaledd dynion a menywod, ac i annog sefydliadau i gymryd camau i fynd i’r afael â nhw.

Mae’r ffigyrau i gyd yn seiliedig ar ddata a gymerwyd o systemau cyflogres Cofnod Staff Electronig (ESR) y GIG fel ag ar y dyddiad ciplun (31 Mawrth).

Mae’r adroddiadau Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn cynnwys y canlynol:-