Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Yn ystod 2020 a 2021, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar Ddrafft Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Ym mis Mehefin 2022, cryfhawyd y cynllun a’i ailenwi yn “Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol” gan Lywodraeth Cymru. O ymgysylltiad cymunedol, a’r ymatebion i’r ymgynghoriad, daeth yn amlwg i’r Llywodraeth bod angen dull gwrth-hiliol.

Dyma’r hyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddatgan, “Rydym eisiau gwneud gwahaniaeth sylweddol i genedlaethau’r lleiafrifoedd ethnig, a hynny nawr ac yn y dyfodol.” Rydym eisiau iddynt ffynnu, a pharhau i helpu gwneud Cymru’n genedl wyrddach, gryfach a thecach. Rydym eisiau cael Cymru lle mae pawb yn ffynnu ac yn teimlo’n werthfawr.”

Mae’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol newydd yn gosod cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i adrodd cynnydd y gellir ei ddangos mewn meysydd y manylir arnynt mewn camau gweithredu penodol. Iechyd yw un o gydrannau'r cynllun cenedlaethol, ac rydym ni yn BIPBC wedi datblygu cynllun gweithredu cynhwysfawr. Gallwch edrych ar ein ‘cynllun ar dudalen’ yma: