Rhwydwaith anffurfiol yw hwn rhwng partneriaid sy’n gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo cydraddoldeb. Mae cynrychiolaeth o’r sector cyhoeddus yn cynnwys: Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru ac Awdurdod yr Heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r Rhwydwaith yn cynnal ymwybyddiaeth o’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn hwyluso ymgysylltiad ag ystod o unigolion yn cynnwys y rheiny sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig ac mae’n cynhyrchu amryw o ganllawiau arfer da at ddefnydd cyrff y sector cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru.
Cynhaliodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru (NWPSEN) Ddigwyddiad Ymgysylltiad â Rhanddeiliaid ar y 24ain o Fai 2018: Adroddiad Digwyddiad Ymsgysylltiad â Rhanddeiliaid 24 Mai 2018.
Mae’n Grŵp Rhanddeiliaid Cydraddoldeb (ESG) yn cyfarfod bob chwarter, ac mae’n cynnwys unigolion a grwpiau sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig ac eraill sydd wedi dweud eu bod yn barod i weithio gyda ni yn y swyddogaeth hon er mwyn helpu i lywio a chraffu ar ein cynnydd yn erbyn Amcanion Cydraddoldeb y Bwrdd Iechyd a chefnogi’r Bwrdd Iechyd i ddod o hyd i atebion.
Mae’r dyddiadau ar gyfer 2021 ar hyn o bryd fel a ganlyn:- (cynhelir pob cyfarfod rhwng 3.00pm a 5.00pm ar MS TEAMS)
25/03/2021
08/07/2021
18/11/2021
Am ragor o fanylion neu os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r cyfarfod hwn, neu’n dymuno ychwanegu eitemau at yr agenda, cysylltwch â’r tîm Cydraddoldeb a Hawliau Dynol drwy ddychwelyd i’r brif dudalen Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a sefydliadau eraill y GIG wedi gweithio gyda’i gilydd yng Ngogledd Cymru i greu rhwydwaith gweithwyr cynhwysol i staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, a’i enw yw Celtic Pride.
Nodau’r rhwydwaith yw:
Os oes gennych ddiddordeb ac eisiau mwy o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan a helpu i wneud gwahaniaeth, cysylltwch â william.nichols@wales.nhs.uk yn gyfrinachol. Rydym yn croesawu diddordeb gan aelodau o’r staff a’r rheiny nad ydynt yn gweithio i sefydliadau’r GIG o bob cefndir ledled Gogledd Cymru.
I gael y newyddion diweddaraf, rydym ar Facebook yn: Celtic Pride a Twitter: @BCUCelticPride