Neidio i'r prif gynnwy

Dogfennau Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymrwymo’n llawn i’r amcanion a gyhoeddwyd yn ein Cynllun Strategol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac i sgwrs agored a thryloyw gyda’n rhanddeiliaid i gyd am ein cynnydd a’n heriau (gweler y yma i gael ein Hadroddiadau Blynyddol Cydraddoldeb).

Rydym wedi gweithredu ymagwedd strategol gadarn at Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EqIA) dros nifer o flynyddoedd o dan arweiniad y Tîm Cydraddoldeb Corfforaethol a chefnogaeth lwyr ein Bwrdd. Mae hyn wedi’n galluogi i wreiddio egwyddorion EqIA wrth ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau drwy ddatganoli cyfrifoldeb am gynnal yr Asesiadau i’n staff gweithredol o amgylch y Bwrdd Iechyd.

Mae Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb sy’n gysylltiedig â phrosiectau ad-drefnu mawr fel Byw’n Iachach, Aros yn Iach yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Bwrdd Iechyd ochr yn ochr â dogfennau eraill sy’n gysylltiedig â’r prosiectau. Mae tudalen gartref ein gwefan wedi’i lleoli yma.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweld dogfennau Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb sydd heb eu cyhoeddi ar ein prif wefan, gysylltu ag aelod o’r Tîm Corfforaethol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae’r manylion cyswllt ar ein prif dudalen Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.