Neidio i'r prif gynnwy

Cynlluniau Strategol Cydraddoldeb

Mae hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant a gwerthfawrogi amrywiaeth i gyd yn hanfodol er mwyn cael gafael ar ofal iechyd a mynd i’r afael â chanlyniadau iechyd gwell.

Mae Ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth a wnawn. Mae hyn yn cynnwys creu amgylchedd gwaith cynhwysol ac amrywiol, lle mae cydraddoldeb yn cael ei ddatblygu, lle mae amrywiaeth yn cael ei werthfawrogi a lle mae cred graidd mewn mynediad teg at wasanaethau a bod ymddygiad gwahaniaethol yn cael ei herio o’r dechrau. Rydym am i’n staff deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn ddiogel yn y gwaith.

Rydym am i’n cleifion, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr deimlo’n ddiogel ac ymddiried ynom ni. Rydym yn cydnabod y bydd ein gwasanaethau hefyd yn elwa pan fyddwn yn creu’r diwylliant hwn, ac y byddant yn dosturiol, yn gynhwysol ac yn hygyrch. Nod ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y pedair blynedd nesaf yw lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella llesiant a gofal iechyd yng ngogledd Cymru.

Mae’r ddogfen hon yn nodi ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y pedair blynedd nesaf a’i nod yw dangos sut byddwn yn cyflawni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb. Mae ein hamcanion yn cael eu llywio gan Weledigaeth, Gwerthoedd a Phwrpas BIPBC.

Ein hamcanion cydraddoldeb strategol 2024-2028 yw:

  • Amcan A: Sicrhau tegwch drwy weithio mewn partneriaeth – ‘dim byd amdanoch chi heboch chi’
  • Amcan B: Sicrhau tegwch drwy ddarparu gwasanaethau cynhwysol o ansawdd uchel
  • Amcan C: Sicrhau tegwch drwy Lywodraethu ac Atebolrwydd
  • Amcan D: Sicrhau tegwch drwy fod yn sefydliad caredig a thosturiol
  • Amcan E: Sicrhau tegwch drwy arloesi

I ddarllen ein Cynllun Strategol Cydraddoldeb diweddaraf dilynwch y ddolen isod:

Fel corff cofrestredig yng Nghymru dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gofyn i ni lunio Cynllun Strategol Cydraddoldeb o leiaf bob 4 blynedd. Pwrpas y Cynllun Strategol Cydraddoldeb hwn yw disgrifio BIPBC a dogfennu'r camau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu cymryd i gyflawni ei Ddyletswyddau Penodol dan y Ddeddf.

    Gallwch hefyd gael mynediad at Gynlluniau Strategol Cydraddoldeb blaenorol y Bwrdd Iechyd drwy ddilyn y dolenni isod: