Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion o'r Bwrdd Iechyd

30/08/19
Robin ymroddgar yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn ennill gwobr Gogledd Cymru

Mae Robin yn Ysbyty Maelor Wrecsam sy'n treulio 400 awr y flwyddyn yn gwirfoddoli yn yr ysbyty wedi cael ei chydnabod gyda gwobr iechyd Gogledd Cymru.

28/08/19
Pencampwr LGBT+ Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar restr fer prif wobr genedlaethol.

Mae actifydd trawsrywiol sy'n gweithio yng Nghonwy ar restr fer prif wobr genedlaethol am ei waith i rymuso'r gymuned LGBT+ yng Nghymru.

Uned Gofal Brys yr Un Diwrnod i wella amseroedd triniaeth a chynyddu capasiti yn Ysbyty Glan Clwyd
Uned Gofal Brys yr Un Diwrnod i wella amseroedd triniaeth a chynyddu capasiti yn Ysbyty Glan Clwyd
27/08/19
Dros 500 o bobl yn cael eu gweld yn ystod mis cyntaf yr uned gofal brys dynodedig newydd i helpu pobl i osgoi derbyniadau i'r ysbyty

Mae uned gofal brys newydd yn Ysbyty Glan Clwyd wedi trin dros 500 o bobl yn ei mis cyntaf ers agor.

27/08/19
Gwasanaeth Iechyd a Lles Carchar ar restr fer gwobr genedlaethol

Mae gwasanaeth iechyd a lles sy'n gwella bywydau trigolion yn HMP Berwyn ar restr fer gwobr fawreddog.

21/08/19
Y Bwrdd Iechyd i dderbyn cyfrifoldeb dros weithrediad meddygfa yng Nghaergybi

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn derbyn cyfrifoldeb dros weithrediad Meddygfa Longford yng Nghaergybi o fis Medi 2019.

16/08/19
Dathlu nyrs Ysbyty Gwynedd ar ôl trin 30,000 o gleifion

Mae nyrs yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd wedi'i chanmol gan ei chydweithwyr ar ôl trin dros 30,000 o gleifion.

15/08/19
Staff gofal iechyd yn ehangu eu sgiliau i helpu pobl hŷn i gynnal deiet iach

Mae tîm o gynorthwywyr gofal iechyd a nyrsys ardal wedi'u cydnabod am eu hymrwymiad i ddysgu sgiliau maeth newydd i fod yn fuddiol i'w cleifion sy'n gadael yr ysbyty.

09/08/19
Yr Asiantaeth Ddarllen yn dathlu cynllun iechyd meddwl a lles yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst

Dathlodd yr Asiantaeth Ddarllen ei chynllun Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst heddiw (dydd Gwener 9 Awst), mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

08/08/19
Staff gofal iechyd yn Ysbyty Gwynedd yn codi dros £4000 ar gyfer eu ward

Mae dau redwr brwd yn Ysbyty Gwynedd wedi codi dros £4000 tuag at eu ward trwy gwblhau un o heriau gwydnwch anoddaf Ewrop.

08/08/19
Gwobrwyo staff gofal iechyd am eu hymrwymiad i ddysgu'r Gymraeg

Mae dysgwyr Cymraeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dathlu ar ôl cael marciau uchel am eu sgiliau iaith.

02/08/19
Therapydd Galwedigaethol sy'n cynnig gofal rhagorol i gleifion canser yn ennill gwobr iechyd

Mae Therapydd Galwedigaethol sy'n mynd y filltir ychwanegol i gleifion gofal lliniarol wedi ennill gwobr gan y GIG yng Ngogledd Cymru.

02/08/19
Ffrwythau am ddim i blant yn Ysbyty Maelor Wrecsam i annog bwyta'n iach

Mae menter treialu i roi ffrwythau am ddim i blant pan fyddent yn cyrraedd yr adran cleifion allanol i blant wedi cael ei lansio gan Ysbyty Maelor Wrecsam.  

02/08/19
Gwell hyder a lles i breswylwyr cartref gofal yn Llangollen diolch i raglen iechyd y geg y Bwrdd Iechyd

Mae pencampwr iechyd deintyddol yng nghartref preswyl yn Llangollen yn rhoi gwên ar wyneb preswylwyr diolch i gymorth gan dîm Gwasanaeth Deintyddol Cymuned y Bwrdd Iechyd.

01/08/19
Rhoi'r dechrau gorau i fywyd i fabanod yn ystod Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd

Mae dechrau Awst yn nodi dechrau Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd ac mae dwy fam yn awr yn lledaenu'r gair o ba mor bwysig yw bwydo ar y fron i'r fam a'r babi.